Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rhythmig ddiflino. 'R oedd y wialen a'r gyt a phopeth, o'r arddwrn hyd at y bluen fiaenaf o'r tair a ddefnyddlai,—у cyfan fel petai'n fyw i gyd a than ddisgyblaeth ddi-feth. Ond gwyddem mai o hir ym- arfer blynyddoedd y daeth y feistrolaeth hon iddo. Ond yr abwyd a hoffem ni fwyaf,-y mwydyn, fel y galwem ef. Ac nid oedd blasusfwyd gwell i frithyll na'r teip o fwydyn bach coch y digwyddai fod digon ohonynt heb fod ymhell o'r ty. Cyngor hen bysgotwr at drannoeth bob amser oedd hwn: "Casgla dy fwydod heno, rho nhw mewn bocs bach a thyllau yn ei dop, rho dipyn o fwswm o'r clawdd gyda nhw a diferyn bach o hufen os o's gen ti." Nid yn aml y methai'r cynllun hwn. Uchafbwynt crefft y dal â mwyd- yn oedd llwyddo pan fyddai'r dwr yn groyw. Sonnir, oni wneir, fod y celfydd- wr bob amser yn ei guddio'i hun; — wel, dyma grefftwr yr oedd gofyn iddo wneud hynny'n llythrennol. Gŵyr y cyfarwydd sut i ddefnyddio cefndir cyfleus a natur- iol, boed lwyn neu geulan, i'w gynorth- wyo ar y pryd. Oherwydd rhai hawdd iawn i'w dychryn a'u tarfu yw brithyllod. Dim ond awgrym o gysgod neu sŵn troed drymach nag arfer ar y lan, neu daflu'r lein yn afrosgo, a dyna ddigon. Gwyr hefyd pa mor agos y tâl hi i nesu at y geulan, ai gwell yw plygu ar ei gwrcwd gan gripian yn ofalus, ai gorwedd ar ei hyd ar y ddaear o'r golwg. Yn wir y mae rhywrai wedi trafferthu, yn wyrth- iol bron, i arohwilio'r ochr hon ar bethau, sef rhan y pysgodyn yn v ddrama gynnil a chwaraeir ar lan yr afon. Fe ffurfia wyneb y dŵr ddrych y gwêl y pysgodyn ynddo, wedi'i adlewyrchu, bopeth ag sydd ar y gwaelod neu o dan yr wyneb. Dylid oofio hyn wrth agosáu mewn sgidiau rwb- er. Nid syn chwaith fod pysgodyn yn dianc pan fo'r pysgO'twr yn anymwybodol ei fod ef wedi achosi braw iddo o pwbl. Oherwydd rhaid dysgu bod gan y brithyll weledigaeth (gymylog hwyrach) o ffurf- iau uwchlaw'r dŵr ar onglau oddi wrth ei lygaid ag sy'n llawer lletach na chylch cyfyngedig gweld uniongyrchol. Hwyrach mai ftolineb yw hyn i gyd yng ngolwg y sawl a gred mai oierwaith yw caiio'r wial- en ar ddiwrnod heulog a'r dŵr yn loyw ac araf. le, os cyfrifir nifer y pysgod yn y fasged yn bwysicach na mesur y mwyn- had a ddaw o'r ymosod cynnil a hir-ymar- hous a ofyn telerau o'r fath. Ond i ddychwelyd eto at y bluen. Gyda dyfodiad plu parod y siopau, — fel pob crefft arall, fe araf ddiflanna'r hen gelfyddyd o wneud y pryfyn ar lan yr afon. Un craff ei lygad oedd yr hen bysgütwr a fedrai gawio'i bluen ei hun o ddewis blu'r drudwy, y betrisen, y fwy- alchen, rhegen yr yd, yr iar fynydd ac eraill. Ac onid yw'r 'Goch y Bonddu' yn uchel ei bri yn llenyddiaetii bysgotwrol y Sais? Y mae llawer o aflwyddiant pysgotwyr pan ddônt i hen nentydd Cym- ru i'w briodoli i'r ffaith nad ydynt yn bar- od i astudio'r amgylchoedd cynefin, ac na wna plu dieithr mo'r tro. A yw hen Gardi o frithyll yn barod i gael ei ddenu gan "silks" amryliw y 'Greenwell's Glory' neu 'Wickham's Fancy'? Ond gadawer inni droi at y gŵr sydd â'r ysfa yn ei flino. Lwc neu anlwc!- dyna'r geiriau a glywir fel rheol wrth gyf- eirio at ganlyniad ei deithiau hirion. Wrth gwrs, y mae yna hen stori wedi mynd ar led yn enbyd a gais wneud tipyn o walch a thwyUwr ohono gan ei fod mor ffond o gyfeirio at yr hyn na ddaliodd, fel petai yn rhyw ymesgusodi. "Shwt iwc gawsoch chi?" "0, dim rhyw lawer wir. Dim ond rhyw ddau neu dri, — a ma'n nhw'n fân iawn. Ma' hi'n rhy oer neu rywbeth. Ond pe gwelsech chi'r un golles i! Nid dyma'r fan i fesur onest- rwydd neu anonestrwydd datganiad o'r fath, ond fe rof i i'r pysgotwr druan y credyd ei fod yn o agos i'w le hefyd am un tro allan o bob tri, a dweud y lleiaf. Ac onid yw peth o'i amhobJogrwydd yn dilyn y ffaith mai dyma'r unig un o blith meáb- ion dynion, ag sydd yn eu synhwyrau priod, a ddeisyf weld y glaw yn tywallt ar adeg ei wyliau?