Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

io yn y nifer fwyaf o sefydliadau Cym- reig ymhlith y Cymry ar wasgar, canys ceir yno nifer helaeth o gymdeithasau ac eglwysi Cymreig. Yn ychwanegol at hyn trefnwyd rhai o'r sefydliadau ar linellau cenedlaethol, Clybîäu Merched Cymreig yr Amerig, "Ivorites Lodges," Cymanfa Ganu Genedlaethol yr Amerig a Chanada a Chynadleddau Cenedlaethol y gwahanol enwadau crefyddol. Y mae ganddynt yma eto, fel yn y Wladfa ym Mhatagonia, eu newyddiadur eu hunain­- "Y Drych" ­iwedi'i argraffu yn Gymraeg a Saesneg sydd yn ddolen gydiol gampus rhwng y gwahanol sefydliadau a chanolfannau. Gall Cymry'r.Amerig yn wir ymffrostio hyd yn oed mewn peth a elwir yn "Nat- ional Home" i'r Cymry hynny o'u mysg a aeth yn rhy hen neu wanllyd i edrych ar eu hôl eu hunain, a diau i hwn eisoes fod o fendith amhrisiadwy i lawer o'n cym- rodyr anghenus yno. Eithr oherwydd diffyg cysylltiadau rhwng Cyrnry'r Am- erig a'r hen wlad, collwyd llawer o ddi- ddordeb yng Nghymru ac mewn materion Cymreig yn ystod y chwarter canrif di- wethaf a dirywio yn dorcalonnus a wnaeth sefyllfa'r iaith Gymraeg yn eu plith. Tasg y dyfodol fydd atgyfnerthu'r Cym- ry gwlatgar hynny a ddeil yn gadarn o blaid pethau Cymreig yno a cheisio gofalu na ddigwydd hyn eto i ymfudwyr Cym- reig y dyfodol i'r Ameríg-fe1 yn wir i bob gwlad arall. Fel y cyfeiriwyd uchod, y mae sef- ydliadau Cymreig hefyd yn bod mewn amryw ganolfannau yn y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell, Awstralia, New Zealand, Canada, Deau Affrig, Deau Amerig a Rhodesia, a chyflawnant oll waith ar- dderchog yn eu gwahanol gylchoedd. Cynhelir eu cyfarfodydd, mewn rhai eng- hreifftiau bob wythnos, mewn eraill bob mis, ac yn aml iawn trefnir cymanfaoedd canu ac eisteddfodau ar adegau hwylus yn ystod y flwyddyn. Er mor brin yw'r Gymraeg yn oedfaon llawer o'r sefydliad- au hyn, eto i gyd erys digon o arwyddion, fel y dywedodd un alltud tramor wrthyf yn ddiweddar, i ddangos y dyhea llawer ohonynt ymhlith eu hamgyichoedd dieithr a'u cyffyrddiad â phobl o amryfal syn- iadau, delfrydau ac ieithoedd, am y peth- au cartrefol ac adnabyddus hynny y bu- ont gynt yn gyfarwydd â hwynt yng Nghymru. Cytunir felly 'r wyn sicr fod angen pendant yn y dyfodol am fabwysiadu cynllun effeithiol a gadwai Gymru mewn cysylltiad parhaol â'r sefydliadau ac â'r unigolion Cymreig yma yn yr alltud, a'u troi'n alltudion buddiol i ddyfodol ein cenedl fechan-cynllun a fedrai eu dylan- wadu a'u cymell i gyfrannu tuag at ddi- ogelu a meithrin ein nodweddion cenedl- aethol a'n ffordd arbennig ni o fyw,- cynllun a fyddai'n fendith ac yn gyn- horthwy i'r ddwy ochr, ac a fyddai'n gyfle i wneud y Cymry ar wasgar yn off- erynnau i ledaenu, er lles y byd, ein tra- ddodiadau a'n delfrydau ni fel Cymry. Credaf y medrwn ddysgu cryn dipyn oddi wrth y Gwyddelod a'r Iddewon yn hyn o beth. Eu halltudion hwy a fu, ac y sydd, yn asgwrn cefn i'r fam-wlad yn eu hymdrechion dros iawnderau. Onid yw'n rhesymol, felly, honni y medrai y Cymry ar wasgar yn yr un modd, ac yn eu hamryfal ffyrdd, gyfrannu at ddiddor- deb adnewyddol yng Nghymru ac mewn materion Cymreig, a thrwy hynny sicr- hau parhad i'n cenedl a phopeth da a berthyn iddi. Dyma dasg a haedda sylw arbennig pob un ohonom-tasg a gynorth- wyai i ddiogelu ein treftadaeth genedlaeth- ol, ac a'n clymai fel Cymry ledled y byd wrth ein gilydd yn un teulu mawr a fydd- ai'n ymfalchio yn ei orffennol ac a wyn- ebai'r dyfodol gyda gobaith ac vnni new- ydd.