Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymwelwyr Gan ALUN T. LEWIS BYDDWCH yn ddistaw a llonydd," meddwn i, "mi ddaw yn ei ôl yn y munud." Syllem ein tri ar y donnen cig moch a grogai wrth linyn yn ffenestr fy nghell. Daethai fy nhad a'm mam i ymweld â mi yn y Sanatoriwm. Eisteddai mam ar gadair wrth erchwyn y gwely, ynymyl y peipiau dwr poeth, a'm tad ar gadair arall a fenthyciaswn am y prynhawn o gell Huw, a oedd am y pared â mi. Ystafell fechan betryal oedd hi, rhyw ddeg troedfedd o hyd a lled, a hollol foel. Lliw oedd ar y muriau, lliw briallu gwan, er mwyn medru eu golchi'n rheolaidd. Carwn gael darlun i grcgi arnynt, petai rhaid i mi fodloni ar 'Y Tadau Method- istaidd,' neu'r 'Stag at Bay,' ond ni chan- iateid dim o'r fath rhag hel llwch. Hel llwch yw y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân yn yr iechydfa. Yn un gornel i'r ystafell yr oedd cwpwrdd dillad, locar fechan wrth erch- wyn y gwely i gadw mân bethau, a ffen- estr fawr fel drws dwbl, a honno'n llydan agored ddydd a nos. Yr oedd gwagle uwch ben y drws hefyd, ac awel gref- weithiau'n codi'n wynt nerthol yn rhuthro -o'r ffenestr i'r twll ym mhen y drws. Codasai fy nhad goler ei got uchaf, a chadw ei het am ei ben. Diwrnod braf yn niwedd hydref oedd hi, a gwlith trwm y bore eto'n disgleirio'n heulwen y pryn- hawn; ond er bod yr awyr yn ddigwmwl yr oedd min ar yr awel. Yrnollyngai'r dail hirion yn llipa ar frigau'r pren almond gyferbyn â'r ffenestr. Ni thasgai aderyn bach i'r awyr heb fwrw deilen i'r llawr, a phan ddisgynnodd brân ar y pren a chodi'n afrosgo wedyn, gyrrodd gafod ddistaw droellog ar y gwelltglas. Cyn hir daeth y Swigw Las bach yn ôl, a hofran am eiliad cyn disgyn ar y donnen. Hongiai gerfydd ei grafangau, â'i ben i lawr, yn lliw byw o las a gwyrdd a melyn, a'r donnen yn ysgwyd yn ôl a blaen fel pendil clòc. Toc daeth un arall yno, ac wedi peth ymrafael cytunodd y ddau i rannu'r ysbail, a phigo'r toddion blasus. "Angylion!" meddai fy nhad. Daeth siffrwd adenydd o'r ffenestr. "0! dyna chi wedi i dychryn nw' i ffwrdd," meddai mam, "ond tydyn 'hw'n ddof." "Mi ddôn i mewn a phigo oddi ar fy hambwrdd i pan fyddaf yma fy hun, ond i mi beidio â symud yn sydyn," meddwn innau; "beth oeddech chi'n feddwl wrth ddweud angylion 'nhad?" "Wel 'roedd yna draddodiad yn ar- dal Llangarrog pan oeddwn i'n hogyn, mai angel wedi ymgnawdoli oedd y Titw Tomos, ac y byddai yna felLtith ar ben un- rhyw un a wnâi niwed iddo, neu dorri ei nyth." "Ha! ha!" meddwn innau, "angyl- ion yn cerdded y ddaearyn 'incognito' felly!" "Paid ti â gwamalu," meddai mam, "wyddom ni yn y byd machgen i. Mi gafodd y proffwyd 'i borthi gan yr adar yn do, a beth am y gwr hwnnw ddaru letya angylion yn ddiarwybod?" "Glywaist ti am yr hen weinidog hwnnw?" ebe fy nhad, "Robert Jones Rhyd-y-marian 'rwy'n meddwl, yn mynd o gwmpas i holi'r seiat, a rhyw hen wraig dduwiol yn dweud yr adnod honna-sut mae hi'n mynd hefyd, — 'Angel yr