Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oedd yna wyneb! Mae'n plygu drosof a gafael yn fy ysgwydd. Teimlaf ei fodiau goruwch- naturiol yn suddo yn fy nghnawd. Ceisiaf roi sgrech am fy hoedl-ond mae fy ngwddf fel y garthen, a'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau. Dyma'r diwedd! "Wil," meddai'r llais o'r tu hwnt i'r lIen. ­-"Oes gen ti beth agor tun?"ü "Beth?" meddwn i, "Pwy?" a chodi'n sydyn ar fy eistedd. Dechreuais chwerthin yn orffwyll, yn wir rhywbeth rhwng chwerthin a chrio oedd y swn rhyfedd a ddaeth dros fy min. "Taw y diawl gwirion," ebe Emlyn, a gysgai yn yr ystafell bedwar gwely, "rhag ofn i Ali Baba dy glwad ti. Mi fydd wedi canu arnom ni wedyn." Ali Baba oedd llysenw'r chwaer a ofalai am yr Ysbyty yn y nos. "Ha a! Ha—a! Ha-a! Llanfarian, Aberystwyth. meddwn innau, a llyncu'r anadl i'm hysgyfaint rhwng pob ebychiad. "Wnes i mo dy ddychryn di­ naddo?" "N — naddo," atebais innau, a diolch am y twllwch i guddio'r celwydd, "codi ar fy eistedd braidd yn sydyn wnes i, a 'rydw i allan o wynt." "Mi gurais i'r drws yn ysgafn, ond 'roeddat ti'n cysgu'n rhy drwm, Gwran- da, mi ges i dun o ffrwythau gan fy chwaer p'nawn yma, a 'rydan ni'n planio scram yn y ffôr-bedar." Crafangais yn y locar wrth ochr y gwely, ac estyn y peth agor tun i Emlyn. "Hwda," meddwn i, ac yn fy myw ni fedrwn ddweud ychwaneg. "Diolch. Os wyt ti am dy siâr, tyrd ar f'ôl i hefo soser a llwy. Oes gen ti deisen?" "Oes," meddwn i, "mi ddof ar d' ôl di rwan, ar ôl i mi gael fy ngwynt ataf." Y DDERWEN 'R oedd derwen, fel y'i cofiaf hi, A'i braich dros gamfa simsan, A'r galon a dorrais arni gynt, Ar waetha'r gwynt, sy'n gyfan. Mae'r dderwen heno, megis doe, Â'i braich dros gamfa simsan, Ond O! na fai y galon hon, Sy' dan fy mron, yn gyian. STANLEY G. LEWIS.