Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Siwrwd a Chrefion Gan T. HUDSON-WILLIAMS BÜM yn ystyried teithi'r ddwy iaith y dydd o'r blaen ac yn cymharu eu dull o ymadroddi. Tybiais fy mod yn canfod ynddynt arwyddion o wahaniaeth yng nghymeriad y Cymro a'r Sais; digon tebyg fy mod yn methu; hawdd yw mynd ar gyfeiliom wrth hela; efallai mai rhith fy nychymyg yw'r pryf a ddeliais. Cred- af fod y Cymro yn galetach na'r Sais; "school-boy hysterics of the Celt," medd- ai Tennyson. Lol bob gair; y mae'r Saes- on yn fwy "sentimental" 0 lawer; nid oes gennym ni air cymwys i nodi'r peth; bu raid imi gymryd benthyg gair Saesneg i gyfleu fy meddwl lawer blwyddyn yn ôl pan fynnwn sôn am "sentimentaleidd-dra cwynfannus" 'Gofidiau Werther' Goethe; nid yr un peth yw "teimladrwydd." Hoffach gennym ni yw rhoi enwau rhannau o'r corff ar bethau difywyd: coes rhaw, bol y clawdd; llygad y ffynnon, clust cwpan, dwrn drws, ael y bryn, Troed y Rhiw, talcen y ty. Y mae gan y Sais ei "foot of the hill," &c., ond defn- yddir y gymhariaeth yn amlach mewn en- wau Cymraeg; felly hefyd "pen," megis pen y stryd, pen y ffos, pen y ffordd, pen y bont, Pen y gwryd; Tal y Bont, Tal y Cafn, trwyn yr ynys, Trwyn yr Wylfa, Esgair Geiliog, Bron y Gaer. Y mae rhywbeth nes atom yn ein di- arhebion hefyd: "Y ci gerddith a geith" medd pobl Caernarfon; hwy hefyd fydd yn dweud "mae wedi gweld y Werddon erbyn hyn" am un a fu'n hir ddisgwyl a "reidio carantîn" am y llanc a fydd yn cerdded i fyny ac i lawr o flaen cartref yr eneth a addawodd fynd am dro gydag ef Y GYMRÀEG A'R SAESNEG er ei bod hi, efallai, wedi dianc trwy ddrws y cefn i gyfarfod â llencyn arall. Sonia'r Sais am "the Greek Kalends" a "when the moon is green cheese"; onid yw "pan fo'r Wyddfa'n gaws" yn nes i'n cyrraedd? Gallaf fynd i Lanberis i brof- i'r wyrth y pryd hynny; ond bydd gofyn gwyddoniaeth i ddweud pa beth a fydd wedi digwydd i'r lleuad. Cawn y Sais yn rhagori weithiau; er ei byrred nid yw "hir pob aros" cystal di- hareb ag "it's a long lane that has no turning" a'r darlun a gyfyd ynom o ffordd hir, gul a gwastad yn ymgolli yn y pellter rhwng dau fur llwm ac uchêî. Efallai y dylid rhannu'r wobr rhwng "y cyntaf i'r felin gaiff falu" a "first come, first served," pan welwn y Cymro yn y wlad a'r Sais yn ei siop, — "a nation of shopkeepers" meddai Napoleon amdan- ynt; cymharer dihareb y Pwyliaid: "i'r sawl a gyfyd yn fore y bydd Duw yn rhoi." Da hefyd yw "the early bird catches the worm" nes cofio nad yw tynged y pryf yn cymell dyn i fore-godi. "To carry coals to Newcastle," medd y Sais; "dweud pader i berson," medd y Cymro, am ein bod ni yn fwy crefyddol, tybed? Ni fynnwn, beth bynnag, daeru bod y Cymro yn fwy cymedrol am ei fod ef "yn codi ei fys bach" pan fo'r Sais yn "codi ei benelin." Gwell gennyf "nes penelin nag arddwrn" na "blood is thick- er than water." Ceir mwy o fywyd yn ein metafforau hefyd, e.e. "y mae hi wedi mynd yn draed moch arno," "cael ei big i mewn." Llwyd a di-sawr yw llawer ymadrodd