Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Carwn wybod pwy yn gyntaf a roes yr ystyr presennol i 'r gair "tangnefedd"? Y mae'n codi "heddwch" i dir uchel a mwy ysbrydol. "Da chi, blant, rhowch funud o heddwch imi," medd y fam brys- ur wrth y plant sydd yn gweiddi ac yn gwingo o'i hamgylch. Ni freuddwydiai am ofyn iddynt roi "tangnefedd" iddi; ond yr un gair (eirênê) sydd am y ddau yn y Testament Groeg. Gair i'r ifanc. Pa beth bynnag a roddo ar bapur, na fodloned ar yr hyn sydd yn agos i'w le heb daro'r hoelen ar ei phen. Mynned gael yr un gair iawn hyd yn oed wrth roi ei gyfrifon i lawr. Y Er dued yw fy mhrudd-der paid â choelio Pan daeraf nad wyf yn dy garu di; Ar awr y trai na alw'r môr yn fradwr; Fe ddaw â thon ei serch yn ôl o'r lli. 'R wy'n teimlo'r hen wresogrwydd yn dychwelyd, A'r galon gaeth yn curo megis cynt; Ust! Clyw! Mae'r don yn suo yn y pellter; Hi ddaw yn ôl i'r lan a garodd gynt. mae'r gair yn disgwyl amdano, ond nid heb fyfyrio y ceir ef. Rhai o'm hoff ymadroddion: "Gwyn y gwêl y frân ei chyw." "Hael Hywel ar bwrs y wlad" a "mae mistar ar Mistar Mostyn" a'u hawgrym cynnil i wleidydd- ion fel y gallont eu hystyried "cyn codi cwn Caer." "Nid gwiw sôn am raff yn nhy gŵr a grogwyd" (Rwseg). "Ychydig o laeth a ddyry'r fuwch sy'n hoff o frefu' (Pwyleg). "Hanner gwaith yw ei ddech- rau," meddai'r Groegiaid gynt. "Na," medd y Cymro, "deuparth gwaith ei ddechrau," a chredaf mai efô sydd yn iawn. MEGIS CYNT A. K. TOLSTOI (1817-75) Cyf. T. HUDSON-WILLIAMS (23.5.47).