Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barddoniaeth yr Alban Gan MELVILLE RICHARDS GWYR pawb mai cynnyrch beirdd a hyfforddwyd mewn ysgolion bardd- ddol yw'r farddoniaeth Gymraeg glasurol a gyfansoddwyd yn y mesurau caethion. Byddwn yn ymffrostio'n aml yn y bryd- yddiaeth hon gan sôn yn focsachus am feistrolaeth dechnegol y beirdd ar gywydd ac awdl, am eu parch diderfyn i ddillyn- der a cheinder iaith ac ymadrodd, am eu hymlyniad ffyddlon i'r pendefigion a'r gwyr bonheddig a'u noddai. A diau fod gennym hawl i drysori'r Cywyddwyr a rhoi diolch iddynt am drosglwyddo inni y fath dreftadaeth lenyddol. Eithr da fyddai inni gofio weithiau am brydydd- iaeth gyffelyb gan eu cefndryd yn Iwer- ddon a'r Alban. Swyddog cyhoeddus oedd y bardd yn y gwledydd hynny a'i grefft yn disgyn o dad i fab ar hyd y can- rifoedd. Hyfforddid ef am flynyddoedd yn yr ysgolion barddonol dan athro prof- iadol, megis yng Nghymru. Ymhyfryd- ent yng nghymhlethdod eu mesurau a datblygent gyfundrefn o gyfatebiaeth cyt- seiniaid a llafariaid nid annhebyg ar lawer cyfrif i'r gynghanedd gaeth Gymraeg, gan ddefnyddio odl fewnol ac odl gyrch a chymeriadau geiriol a llythrennol. 'Dán direach' ('canu union') y galwent eu mes- urau caethion. A mawl a marwnad oedd eu prif destunau. Gwyddeleg oedd eu cyfrwng, a lluniasant iaith lenyddol safon- ol a ddefnyddid gan feirdd yn Ne Iwer- ddon yn ogystal ag yn Ucheldiroedd yr Alban. Megis yng Nghymru ni ellid dweud o'i waith o ba ran o'r wlad yr han- oedd bardd. Rhaid cofio wrth gwrs mai ffurf ar yr Wyddeleg yw Gaeleg yr Alban, ac er i'r iaith lafar wahaniaethu cryn dipyn yn y ddwy wlad yn ystod y canrif- oedd fe lwyddodd ysgolion y beirdd i gad- w'r iaith lenyddol yn safon i bawb. Bu brwydr Kinsale yn 1602 a ffoedig- aeth Ieirll O'Neill ac O'Domhnaill (O'Donnell) yn ergyd farwol i gyfundrefn farddol Iwerddon. Yr un yw hanes Iwer- ddon â Chymru o hyn ymlaen-seisnig- eiddio'r pendefigion a cholli nawdd eu plastai, cynhaliaeth y beirdd yn lleihau ac yn diflannu, ond ystyfnigrwydd y tra- ddodiad llenyddol yn sicrhau gwarchadw ohon yr hen ddysg ymhHth y beirdd gwerinol. A digwyddodd dau beth di- ddorol iawn. Fel y tynnai'r ail ganrif ar bymtheg at ei therfyn mynnai'r beirdd Gwyddeleg gyfarfod â'i gilydd i lunio cerddi ar ddelw'r traddodiad clasurol ac i drafod pynciau eu hen grefft. Yr oedd ambell blasty yn dal i estyn croeso i feirdd (fel yr oedd Nannau gyda ni, er eng- hraifft), ond erbyn y ddeunawfed ganrif bu'n rhaid i'r beirdd fodloni ar ymgyn- null mewn tafarn. Galwent gyfarfod o'r fath yn 'cúirt' ('llys'), ac nid rhaid pwys- leisio teíbygrwydd y datblygiad hwn i sef- ydlu mân Eisteddfodau y ddeunawfed ganrif yng Nghymru. Yr ail beth a ddig- wyddodd oedd bod y mesurau caethion traddodiadol yn nychu ac yn graddol ddi- flannu a'r 'dán díreach' yn gorfod cilio rhag yr 'amhráin' neu brydyddiaeth yn y mesurau rhyddion acennog. Ond ni allai beirdd y 'cúirt' ymysgwyd yn rhydd oddi wrth gyfrinion eu hen grefft a buan y dechreuwyd rhoddi i'r canu rhydd hwn holl addumiadau odl fewnol a chyfateb- iaeth cytseiniaid a llafariaid. Onid hyn oedd hanes y canu carolaidd yng Nghym- ru hefyd? Ond rhaid nodi un gwahan- iaeth derbyniai beirdd Iwerddon yr