Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hen Dafarn Gan D. JACOB DAFIS O'R braidd y mae eisiau'r ansoddair 'hen' yn y cyswllt yma o gwbl, oherwydd rhyfeddod prin yw'r tafarn newydd. Pe bai dyn yn mesur ffyniant mudiadau wrth nifer eu temlau newydd, o bosibl y cyfrifid fod crefydd ein gwlad ar i fyny. Pe mesurid yr hen dafarnau hwythau yn yr un modd, gellid maentum- io fod y 'mudiad' fel y cyfryw yn wynebu goriwaered erchyll, oherwydd cau yw hanes yr 'hen achosion' o un i un. Er hynny, ffynnu y mae'r Achos yn ddiamau. Rhyw hen greadur sentimental wyf fi, ac o'r herwydd y mae gennyf un gwyn fawr yn erbyn y Cread, a dyma hi. Ni hoffaf weled pethau, pa bethau bynnag y bônt, yn gorffen, yn marw ac yn cau. Y mae gennyf syniad fod hwn yn glwy cyffredin iawn ar ddynion hefyd, gan gymaint yw rhif yr haneswyr crwydrol a'r pererindodwiyr ymhob oes. Dichon fod amryw o blant dynion yn teithio er cael gweld y rhyfeddod newydd, ond fe deith- ia mwy ar drywydd y cyffredin maluried- ig, marw. Ofnaf mai tuedd hunanol sydd o'r tu ôl i hyn oll, a dyn darfodedig, druan, yn cydymdeimlo ag ef ei hun drwy gyfrwng pethau sydd yn debyg iddo. Dyna paham efallai yr oedais i fwy nac unwaith tu allan i hen Dafarn y Gorrig gan syllu a meddwl yn hir. Wn i ddim, ond ta waeth, hynny a wneuthum. Y mae wedi ei gau ers blynyddoedd bellach, ond erys ambell arwydd o'i swydd arno o hyd. Erys llawer stori o'i hanes hefyd ar dafod y fro. Saif ar y groesffordd, ond er fod hynny yn rheswm go dda am ei alw yn "Cross Arms" yng nghyfnod olaf ei fywyd, nid arhosodd yr enw hwnnw ddim. Gwrell gan bobl y wlad yr hen enwau cartrefol fel "Tafarn bara ceirch" a "Thafarn Jem." Pan ddaw'r 'Arms' yma atom, daw dart- iau a photeli pop hefyd, ac, i mi o leiaf, fe orffen y sefydliad â bod yn hen wedyn. Ond yma, erys yr hen enw ar waethaf y newydd ac fe erys hen bennill amdano sydd yn dod i'm meddwl bob tro yr af heibio: Gorrig hen a'r garreg wen A'r sein wrth fôn y simdde; 'Nawr am beint o gwrw glân A stôl wrth tân i eiste'. Mae'n dda at ddolur cefen, Mae'n gwella dolur pen, Mae'n iechyd i'r trafeilwr Sy'n hôl y galchen wen." Nid siarad dros unrhyw ditotalariaeth sych y byddaf wrth ddweud fod awgrym gynnil yn yr hen rigwm yma. Hwyrach na feddyliodd yr hen fardd ddim am hynny wrth lunio'r ail gymal mor ben- agored ei gyfeiriad, ond eto gadawodd bôs mydryddol ar ei ôl. Beth sydd dda at "ddolur cefen"? Beth sydd yn gwella "dolur pen"? Beth sydd yn "iechyd i'r trafeilwr," y "cwrw glân" ynteu'r "stôl wrth tân i eiste"? Fe gewch chwi ben- derfynu fel y mynnwch, ond fe awgrymaf finnau fod y naill mor bwysig â'r Hall yn ei oes ef, yn enwedig wedi siwrnai ugain milltir o Gaerfyrddin. A beth am Carles druan yn y siafft tu allan, yn aros yn amyneddgar a hir? Ni allaf anghofio amdani hi a'i thebyg wrth edrych ar y bach a'r line sydd wrth ochr y drws. Gallaf ddyahmygu gweld diniweidrwydd mawr ei llygaid a blinder y pen hwnnw yn pwyso'n drwm tuag i lawr. Hwyrach fod y trafaelwr yn well o'i gur pen a'i