Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

boen cefn, ond ni fyddai'r llwyth calch yn ysgafnhau dim ar ei chefn hi. Dal i syllu a wnâi ar y trothwy pantiog, â'i chlust fain yn symud gyda phob clec o gyfeiriad y drws. Ond yr oedd yr hen sgiw a sgleiniwyd gan filoedd o ysturîau diddan yn rhy esmwyth i Siams Gilfach- ddafydd ymadael â hi eto. "Peint arall os gwelwch fod yn dda." Gynnau, bwriadwn sôn am 'gae nos,' a phorthmyn, am 'ddiod smygl' a Beca,, ond y mae'n ddrwg gennyf, ni fedraî bellach. Collodd arwriaeth dyn ei swyn a'i ramant wrth feddwl am Carles yn aros, aros "Peintarall FFYNNON MEBYD Llifo, llifo'n ddibrin ddiddig Trwy agennau'r creigiau noeth, Daeth y ffynnon o garedig Ddwylo'r Crefftwr a'i feddwl coeth. Lle mae dolau'r wlad yn delaid A'r Tylwyth Teg yn tario'n hir, Mae cân y ffynnon fach yn peraidd Lenwi'r holl awelon ir. Dros ei gwefus, diddan diddan Ydyw'r bwrlwm yno a ylch, Gan ymdroi fel cadwyn arian Am wddf y fro. O gylch Mae'clawdd a pherth yn brydferth ddedwydd, Gwndwn glas a bryniau gwych, A dywed twf y maes na dderfydd Blas y gwair ar dafod ych. Llwybrais ati yn anturus Heibio i'r holl glogwyni tal, I wrando stori'i dŵr siaradus A theimlo'i rhamant yn fy nal. Mynnwn orwedd wedi trinoedd A dwndwr tref ym mhridd y fro, A'r ffynnon fach yn dwyn ei gwinoedd I feddwi gofid oes o'm co'. HEDYDD MILWYN.