Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwerthfawrogi'r Ddrama Gan HUGH GRIFFITH DIGWYDDAIS droi i weithdy'r saer ryw fore beth amser yn ôl. 'Roedd yr hen grefftwr medrus yn rhoi'r plaeniad olaf i arch nòbl, ac wedi iddo ef a minnau geisio trafod y byd a'i helyntion a rhoi pethau dipyn yn eu lle felly, pwy ddaeth i mewn ond saer coed arall, a dyma i chi sut yr aeth y sgwrsio ymlaen wedyn: "Diawch, William, 'rwyt ti wedi gwneud job go dda ar y bocsyn 'ma." "Ia ia, ydw John Huws, medd- ai yntau, gan dynnu ei law galed fedrus ar hyd y derw. "Wyt yn wir, fachgen gwell bocsyn na welais i erioed. Mi fydd yr hen Fargiad Ifans reit gyffyrddus yn hwn." "Ia bydd, John Huws, ond rhyw greadures fodlon braf fuo hi ar hyd ei hoes ynte? Wyt ti'n cofio ?" Ac aeth y ddau ymlaen i sôn am ram- ant ieuenctid Margiad Ifans ac ardderch- owgrwydd ei harch Ond, dyna i chi grefftwr yn beirniadu gwaith crefftwr ar- all. Mae gennym ni yng Nghymru safon i'n crefftwaith o bob math, safon i'n pren- tisiaid anelu ato. Mae gennym safon o borfeydd, o gynhaeaf, ac o anifeiliaid pasgedig i'r ffermwr. Mae gennym safon o bregethu huawdl i'n pregethwyr, a saf- on 0 lenyddiaeth uchel i'n llenorion. Ond, ple mae ein safon i'r ddrama? Ia, pa Ie yn wir? Chwi lenorion, "Mae Abel eich brawd?" Beth fydd eich ateb cain? 'Rwy'n credu'n siŵr ych bod yn esgeu- luso crefft a chelfyddyd sydd yn perthyn yn agos iawn atoch. Uchafbwyntiau llenyddiaeth gwled- ydd y byd yw eu dramâu. Meddyliwch SGWRS am weithiau Shakespeare, Goethe, Ibsen, Checkov, Turgenev, Moliere, Racine, Eugene O'Neill, Sian 0 Casey, J. M. Synge a llaweroedd eraill. Beirdd oedd y rhan fwyaf o'r rhain i ddechrau, ond ad- nabyddwn hwy trwy eu dramâu yn flaen- af. I ble y trown ni am ddramaydd o Gymro? I ble? Pe bawn i fel actor o Gymro yn penderfynu aros yng Nghymru i ennill fy mywoliaeth, i ba le y trown i am ddramâu gwreiddiol? Byddai'n rhaid i mi ddibynnu'n hollol bron ar gyfì- eithiadau. Mae gennym ddramâú, mae'n wir, ond ydyn nhw'n ddigon da i ddyn ennill bywoliaeth allan ohonyn nhw? Oes gennym ni ddrama yn y Gymraeg sydd yn taclo problemau bywyd heddiw neu bob heddiw ac yfory — problemau sydd yn hanfodol bwysig i'n bywyd ni fel cen- edl ac fel unigolion-drama yr âi pawb i'w gweld, efallai drosodd a throsodd, aç nid mynd o ran mynd ond, yn hytrach, am fod ynddi athrylith sydd yn apelio at bawb? Nid drama a allsai fod yn breg- eth neu'n nofel neu'n stori fer neu'n sgwrs ond drama yng ngwir ystyr y gair, hynny ydi, a'r problemau wedi eu gosod yn gel- fydd yng nghalonnau ac yn eneidiau cymeriadau byw a chredadwy. Rhyw fath o ddameg yw drama. 'Does dim pregethu mewn dameg, a'r un pryd gall fod yn well na phregeth. Yn awr, beth meddwch chi yw'r rheswm paham nad yw ein llenorion yng Nghymru wedi gwerthfawrogi'r ddrama fel cyfrwng i gyfleu eu syniadau a'u teim- ladau ac i ddatrys ein problemau? 'Choel- ia byth na fyddai mwy o weld ar ddrama nag a fyddai o ddarllen ar stori, a'r un