Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bendith a Melltith Gan STEPHEN E. DAVIES WRTH eistedd ryw fore mewn cadair yn y chwaraele bach yn sipian coffi, mi glywn y plant yn mwynhau, yn groch eu hafiaith, yn y chwaraele mawr. 'Roedd eu sŵn i'w glywed dros yr ardal o Bant Gruffydd i Benybryn ac o Lwyn- ithel i'r Merllyn Gwyn. Mae'n braf," meddai llais wrth fy ochr. "Ydi," atebais yn swta ddigon. Meddwl am y plant yr oeddwn i, a'u mwynhad yn yr heulwen a'r awyr iach. "Fe gânt bum munud yn ecstra heddiw," meddyliais, "gan ei bod mor braf; ac os daw rhyw swyddog heibio, dywedaf inni fod bum munud yn hwyr yn mynd allan i chwarae." Yng nghanol y miri bu distawrwydd am ysbaid. "Mae sŵn y trên yn blaen heddiw," meddai'r gogyddes wrthyf. 'Roedd y trên"i‘w glywed yn mynd allan o orsaf Llandderfel bedair milltir i ffwrdd. Dy- wedodd John Lloyd wrthyf unwaith, os byddai'r trên i'w glywed o Landderfel, y byddai'n siŵr o fynd yn law. Felly yfory byddai'n rhaid i'r plant fod i fewn yn yr ysgol drwy'r bore. Dyna sŵn y trên eto, yn croesi pont Dyfrdwy yn awr. Euth- um i chwarae at y plant yn lle rhoi'r pum munud ychwanegol iddynt. Çefais lawer o hwyl yn ceisio dal James. Y nos honno meddyliais mor wahanol yr oeddwn yn teimlo yn ystod yr heth yn y gaeaf. Carcharwyd y plant gan y dwyreinwynt oer am wythnosau lawer yn yr ysgol-hynny yw, pan fedrent ddod yno o gwbl. Cofiaf ddweud wrth John Lloyd yr adeg honno fod y gwynt wedi newid ryw fore. 'Roedd y trên i'w glywed yng Nghynwyd," meddwn. Ni chefais fy siomi yn y sylwedydd profiad- ol. "Rhy uchel 0 lawer," oedd ei ateb. "Mae'n rhaid i'r gwynt fynd yn is na Llandrillo cyn y daw'r meiriol. Mae'n rhaid iddo fynd i Landerfel." Peth rhyfedd yw'r ffordd y bydd dyn yn melltithio ac yn bendithio yr un gwrthrych o dan wahanol amgylchiadau. Melltithiais y gwynt am ddod o Landder- fel ar ddiwmod poeth a braf; ar ddiwrnod o aeaf cyllellog bendithiais yr un gwynt. Wrth gerdded dros banc Tynywaun a rhosydd Caegwyn o Gaio ar ôl bod yn dysgu yn yr ysgol nos yn y pentre rai blynyddoedd yn ôl, byddwn yn fynych yn bendithio'r lleuad am ddangos fy llwybr mor glir. Dim ond llwybr defaid oedd; a heb gymorth y lleuad gallai'r teithiwr mwyaf cyfarwydd golli ei ffordd a chrwydro ar hyd y mynydd. A gwydd- wn mai gwyrth yn unig a adferai'r llwybr hwnnw imi unwaith y collid ef. Hawdd hefyd fyddai colli'r ffordd ar rosydd Cae- gwyn a rhoi fy nhroed mewn pwll o ddŵr neu bwll o glai gwlyb, neu ddisgyn yn bendramwnwgl dros glawdd moel i ffos yr achr arall. Lwybrau anial y bryniau,-hwy wynnwyd Ganwaith gan ei gwenau. Ie, "dy olau di, leuad wen," a'm cadwodd yn ddibryder ar lwybr unig a pheryglus. Ond mor wahanol yr edrychwn ar ei golau yn ystod gaeafau cyntaf y rhyfel! Digiais wrthi lawer gwaith pan welwn hi'n codi'n hardd dros fynydd Cadwgan ac yn goleuo Cwm Rhondda i gyd. Gwyddwn y byddai'r corn rhybudd yn siŵr o ganu cyn hir mewn llawer tref mewn mwy nag un