Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Celfyddyd yn yr Eisteddfod Gan A. G. TENNANT MOON DYWEDWYD llawer am gelfyddyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cym- ru, weithiau'n werthfawrogol ac weith- iau'n feimiadol, a chredaf innau yr anelir canmoliaeth a beirniadaeth at yr awdur- dodau hyd ddiwedd amser. Ond nid ydyw gwybod mai felly y bu erioed yn debyg o dawelu rhai o'r beirn- iaid sydd fel mi fy hun yn teimlo dan or- fodaeth i fynegi eu teimladau, beth byn- nag fo'r adwaith. Gadewch inni yn gyntaf edrych ar rai o'r ffeithiau ynglŷn â threfniadau'r Eis- teddfod Genedlaethol-a phan gyfeiriaf at yr Eisteddfod cyfyngaf fy sylw yma at ochr Celfyddyd. Cawn yr arfer isel o roddi gwobrwyon i wahanol ymgeiswyr. Ymhellach, ar- ddangosir y gwaith, ar ôl ei gynnig, ar furiau a orlenwir, ac effaith y gofod cyf- yng weithiau ydyw ei gwneud yn amhos- ibl i werthfawrogi'r gwaith o gwbl. Diffyg arall yw'r diffyg cyhoeddus- rwydd: ni roir dim cyhoeddusrwydd i'r gwaith a arddangosir. Eto, mae'r tâl 0 10% a hawlir ar bob gwerthiant yn rhy uchel. Nid yw'r Pwyllgor erioed wedi noddi cynlluniau ar gyfer Addurniadau ar Fur- iau; mae hyn yn fwlch pendant. Os caf fanylu ychydig ar y pwyntiau hyn, hoffwn awgrymu a ganlyn: Dylid difodi'r gwobrwyon presennol ac ystyried fel unig wobr y ffaith bod gwaith artist yn cael ei dderbyn a'i ar- dangos. Wedi'r cyfan sut y gallai ychyd- ig o bunnoedd ddigolledu'r arlunydd am ei waith yn gwneud darlun (tasg ddigon costus heddiw a phrisiau paent a chyn- fasau mor uchel), talu'r cludiad i'r ar- ddangosfeydd ac oddi yno, yswiriant ac yn y blaen Gwnaed yr awgrym hwn mewn sgwrs radio beth amser yn ôl gan un o'n Ceidwaid Celfyddyd, a chytunaf yn galonnog ag ef. Gadewch inni fynnu safonau diargyhoedd, beth bynnag fo'r gost. Dylai r nod fod yn uchel; gorau'i gyd po uchaf y bo-nid yn unig i gelfydd- yd Gymreig ond i bob celfyddyd. Oni ellir edrych ar waith o gelfyddyd yn iawn, pan arddangosir ef, ni ellir gwerthfawrogi ei ystyr a'i ansawdd yn llawn. Yn y gorffennol gwelais wthio llawer gormod o ddarluniau i un ystafell fechan. A phan ddaw wythnos yr Eis- teddfod mae'n llwyr amhosibl cael pleser aisthetig wrth geisio bamu'r gweithiau. Hoffwn awgrymu (1) y dylid hong- ian llawer llai o weithiau mewn un ystaf- ell; a golyga hyn wrth gwrs fod Pwyllgor Cyffredinol yr Eisteddfod yn rhoi mwy o le ar gyfer Celfyddyd. (2) dylid rheoli dylifiad y bobl i fewn ac allan, mewn geiriau eraill, os ydyw pobl am weld gweithiau o gelfyddyd, dylent fod yn bar- od i ymuno â chwt — peth a ddioddefent yn hapus pe baent am fyned i'r Sinema. Pe dilynid y ddau awgrym hyn, yr wyf yn siŵr, y caem oll lawer mwy o fwynhad o'r arddangosfa. Ymhellach, gallwn feddwl bod ar- ddangos gweithiau ein hartistiaid yn gof- yn am y cyhoeddusrwydd llawnaf i gyd- fynd ag ef yn ein papurau newyddion dyddiol a'n cyfnodolion wythnosol a mis- 01 a chwarterol. Dylai'r nodiadau am y gweithiau gynnwys enwau yr holl artisf- iaid. Yn bresennol rhoir gormod o sylw i'r ffug-enw. Pan draddodir sgyrsiau gan enwogion ym myd celfyddyd, fel y