Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bu'n arfer, dylid rhoi'r cyhoeddusrwydd ehangaf iddynt. Haeddant o leiaf gym- aint o sylw ag a roir i'r cerddorion. Bai mawr y gorffennol fu rhoi gormod o bwys ar gerddoriaeth, drama a llenyddiaeth, a llawer rhy fach ar gelfyddyd. Eto, mae gofyn i'r artist dalu i'r Eis- teddfod ddeg y cant o unrhyw bris a gaiff am waith a arddangosir. Mae hyn yn rhy uchel, a dylid ei ostwng o leiaf i bump y cant. Nid yw'r Academi Frenhinol ar gyfer Celfyddyd yn gofyn dim am werth- iannau yn ystod yr Arddangosfa Haf yn Llundain. Dylem geisio denu'r artistiaid gorau, ac yn fynyçh iawn nid yw'r artist- iaid hyn, er yn Gymry, yn cynhyrchu cel- fyddyd yn eu gwlad eu hunain, ond mewn mannau eraill, yn Llundain yn ben- naf. Os am eu denu, rhaid gostwng yr ad-daliad ar werthiant. Wedi'r cyfan nid rhesymoI ydyw disgwyl iddynt anfon gwaith o Lundain i fannau yng Nghymru, gan fynd i draul mawr, os gwyddant yr â 10% o'r pris a roir amdano-os gwerthir ef! — Bwyllgor yr Eisteddfod. Mentraf awgrymu mai ychydig iawn yw nifer y gweithiau a werthir yn yr ar- ddangosfa flynyddol, a hynny am na cheir Y BWTHYN O, 'r oedd ei ddorau'n isel, 'R iselaf yn y fro; A hawdd i blentyn dengmlwydd Oedd 'mestyn at y to. Heibio i'r gruglwyni tawel 'R oedd liwybyr troeog, tlws; Fe dreiglai'n igam-ogam At garreg wen y drws. Un ffenestr fechan, gyfaill, Fel llygad rhyw hen gawr, Ond trwyddi hi bob bore aeth Holl ryfeddodau'r wawr. cynnyrch ein hartistiaid gorau yno. Pe gallem ddenu dynion o radd Augustus John, Cedric Morris, David Jones, a Cen Richards, byddai hynny'n hwb i'r gwerth- iant cyffredinol, ac felly byddai gostwng yr ad-daliad yn talu'r ffordd i'r pwyllgor. Dylid cefnogi cynlluniau ynglŷn ag Addumiadau ar Furiau. Mae'n debyg y codir pob math o adeiladau dinesig yn y dyfodol, a rhydd hyn gyfleusteraurhyf- eddol i artistwaith o'r math hwn. Yn y gorffennol yng Nghymru bu'r math hwn er hynny yn amlwg yn unig oherwydd ei absenoldeb. Na wnawn y camgymeriad hwn yn y dyfodol. Meddyliwch arn ennyd am y cynlluniau mentrus a weith- redwyd gan artistiaid yn ystod y Rhyfel ar gyfer awdurdodau arbennig o anturus. Os gellir gwneud hyn dros amser yn ystod Rhyfel, rhaid ei wneud yn adeg Heddwch! Gobeithio y bydd Pwyllgor yr Eisteddfod yn croesawu'r syniad newydd hwn. I derfynu, mynnwn lwyr-ddiwygio ein polisi er mwyn noddi popeth sy'n dda yng nghelfyddyd ein gwlad. Gan mai Celtiaid ydym, mae gennym hanner can- llath o flaen ar unrhyw un arall mewn rhedegfa o ganllath. Rhaid dangos hyn, a pha le yn well na'r Eisteddfod? (Cyf. J.G.G.) HEDYDD MILWYN,