Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dai Pembre Gan WILLIAM THOMAS, Caerdydd Yn rhifyn cyntaf Y FFLAM cyfeiriodd Rhydwen Williams at Dafydd Pembre Evans fel Cristion gloyw a Chymro glew ac onest. MEWN Cwm poblog fel Cwm Rhon- iVA dda, Shoni, Wil a Dai yw'r enwau cyffredin ar fechgyn a rhaid manylu i wa- haniaethu rhyngddynt. Gwreiddiol ac amrywiol ydyw dulliau'r Rhondda o wneud hyn; dyn a wyr, pam, tybed, nad ydynt yn dangos y gwreiddioldeb cynhen- id hwn wr,th fedyddio'r plentyn. Nid oes pall ar eu dawn wedyn. Gyda rhai ohonom 'roedd enw ty neu stryd yn ddig- on ac ambell un yn cario enw ei fam, fel Shoni Betsi. Cyfeirir at enw rhyw ben- tre' neilltuol cysylltiedig â'r teulu i wa- haniaethu rhwng ambell un a'i gilydd. Ped aech am dro i Ynyshir, Rhon- dda, a holi am Dafydd Evans, yr ateb fyddai "Pa Ddafydd Evans? Dafydd Evans, Rhosynfa, ai Dafydd Evans, Heath Terrace," ac felly ymlaen. Pe gofynnech am Ddafydd Pembre Evans, nid yw'n sicr y caech yr ateb iawn ond gofynner am Dai Pembre a fe wawria de- alltwriaeth lwyr ar wyneb pawb. Ym Mhembre y ganed ei dad ond un o blant y Rhondda oedd Dai. Ychydig amser yn ôl bu farw Dafydd Evans drwy ddamwain yn y pwll glo. Diacon, codwr canu, bardd, drama- ydd, cerddor; dyna Dai Pembre neu David P. Evans, fel y cyfeirir ato yn Ad- roddiad yr Eglwys ac ar restr y tanysgrif- wyr i'r Coleg Diwinyddol. Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, bardd talcen slip ydoedd. Ni pherfformiwyd ei ddramâu y tuallan i Saron. Rhyw ddarnau oeddynt at iws gartre. Mawr oedd yr awydd am fod yn y dramâu hyn a phe clywai am rywun yn cintach "Mae Dai Pembre wedi 'ngadael i mas o'r ddrama," âi ati'n syth i ychwanegu rhan arall i'w orchestwaith. Er fod ganddo lais tenor cryf, nid oedd yn gerddor o'r radd flaenaf chwaith. Ond wedi'r cwbl, ef oedd olynydd y baswr enwog Gwilym Thomas fel arweinydd y gân a defnydd- iol dros ben oedd ei wasanaeth. Noson fawr yn Saron, Ynyshir, oedd honno pan berfformiwyd "Cantata'r Adar" (Joseph Parry) — ni ŵyr plant Cymru heddiw faint eu colled o beidio â gwybod y Gantata hon. Daeth Arglwydd Ponitypridd i fyny o Gaerdydd i lywyddu. Yr oedd Willie Thomas, Brynawel (Sir William James Thomas) a Dafydd Pembre Evans i gym- ryd rhan yn y Gantata. Un byr ei gorff oedd Dafydd a gwresog iawn oedd can- moliaeth y llywydd i'r "crwt bach" wrth broffwydo dyfodol disglair dros ben iddo. 'Roedd yn aml yn gyfleus i ni ei ffrindiau alw ei sylw at y digwyddiad hwn yn ei hanes. Efallai fod "centre of gravity" hiw- mor wedi ei symud yn y blynyddoedd di- wethaf o'r De i'r Gogledd. 'Roedd Daf- ydd Evans yn eithriadol am gadw'n fyw ysbryd ffraeth glowyr Cwm Rhondda, ys- bryd sydd yn brin iawn y dyddiau hyn. Pan oeddwn yn derbyn tanysgrifiadau at y Coleg Diwinyddol daeth ataf a dweud "Wrra, dyma hanner coron i Bala-Bangor -each way." 'Roedd ganddo'r ddawn brin honno o naturioldeb. Dai Pembre ydoedd gyda phobun ymhoibman ac ar ei liniau nid oedd unrhyw berygl i'r Bod Mawr ei gam- synied ychwaith. Gweddîai fel pe bai'n