Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

siarad â'r dyn-drws-nesaf. Dyn un llyfr ydoedd a'r Beibl oedd ei unig faes. Mae pwll glo yn profi cymeriadau fel tân ac er mai swyddog (fireman) oedd Dafydd Evans, barn coliers y cylch oedd Y DAFFODIL Pwy sibrydodd yn dy galon Fod it' fyd uwchlaw y pridd, A bod heulwen i'th roesawu Pan brydferthi erwau'r ffridd? Pwy osododd yn dy fynwes Awydd i anturio'n rhydd Trwy y tir a fu'n dy gadw Dan y rhew yng nghellau'r gwŷdd? Pwy sisialodd wrth dy ysbryd Am yr aur a ddôi i'th wedd Wedi codi yn dy dlysni O galedwch d'oerllyd fedd? Holi'r ydwyf yn fy enaid, Wrth fawrhau dy degwch di, Pan gyfodwyf fi o'm beddrod A fydd aur ar f'wyneb i? Ceinewydd. mai "bachan bach piwr oedd Dai Pem- bre." Dyma'r Cymro ar ei orau a gwyn fyd na fyddai cannoedd o'i fath yng nghymoedd poblog y De yn y dyddiau hyn. ORCHWY BOWKN.