Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barddoniaeth a Bywyd Gan TED LEWIS EVANS NÍD wyf yn fardd nac ychwaith yn fab i fardd, a diau y bydd rhywrai yn ddigon parod i amau fy hawl i fentro sangu ar dir sanctaidd barddoniaeth. Diosgaf fy esgidiau er hynny, ac yn os- tyngedig y crwydraf i lennyrch y bardd. Gwnaf hynny oherwydd fy nghariad ato ac mewn tosturi ag ef oherwydd y mynych bardduo diweddar arno. Sylwaf mai lleyg- wyr diawen sydd fynychaf yn ymosod arno, ac er na fynnwn fy nghyhoeddi fy hun ond fel un o'r hil ddiawen, mentraf fod yn cwisling am y tro ac arbed cam y bardd. Rhyw gwestiynau tebyg i hyn a daflwn ni atynt onid e?-a hynny yn ddigon herfeiddiol a hollwybodol: "Pam na chanwch chi rywbeth heblaw yr hen 'vers libre' 'na?" "Pam aflwydd y mae'ch gwaith chi mor anodd i'w ddeall?" "Pa neges sy gan rai fel y chi i ddeud wrthym ni am ein bywyd bob dydd?" "Pam na fedrwch chi ddeud y neges honno, os oes gennyçh un o gwbl, 'run fath â phobl eraill?" Ni honnaf un- rhyw allu na chymhwyster i ateb y cyf- ryw i fodlonrwydd, ond mentraf edrych ar y broblem fel hyn. Credaf fod pob gwir fardd yn artist. Person ydyw a neges arbennig ganddo a'i farddoniaeth yw ei unig gyfrwng ef i gyf- lwyno'r neges honno. Y mae dan orfod- aeth i ysgrifennu, dan orfodaeth rhyw gynneddf na all mo'i throi ymaith na'i hosgói. Ac oherwydd yr orfodaeth hon sydd ar y bardd, dylai fod yn dasg orfod- ol arnom ninnau sy'n ymddiddori mewn darllen y gweithiau, i ganfod y neges a'i chyfieithu orau y medrom i'r bobl hynny nad yw barddoni iddynt namyn hobi "dynion a merched od." Y mae o leiaf dri math o fardd- oniaeth yng Nghymru heddiw. Yn gyntaf, dyna'r math o farddoniaeth a ysgrifennir am fywyd beunyddiol dynion. Tynghedwyd ni, bawb ohonom, i fyw mewn oes beiriannol, oes sy'n cyflym gyf- newid ymgais dyn am allu'r peiriant. Rhoddir pwyslais mawr ar fod yn neill- tuol gymwys. Yn raddol daw y gweith- iwr i fod yn ddim namyn olwyn mewn cynhyrchu gwyllt a'i unig werth yw'r ar- ian a gynigir am natur ei wasanaeth. Prysur y treisia gwerth arian werth dyn, a thrasiedi o'r fath mwyaf yw'r ffaith y derbynnir hyn oll fel rhywbeth cwbl an- ochel. Y mae'r syniad am werth y dyn unigol yn prysur ddiflannu. Derbyniwn wasanaeth y glowr a'r amaethwr, y chwarelwr a'r pysgotwr yn hollol fel y derbyniwn yr haul a'r sêr a'r lloer=­Iel gwasanaeth wedi ei ordeinio i'n pwrpas ni yn unig. Ond wele'r bardd sy'n canu am fyw- yd beunyddiol dynion. Sonia am waith dyn mewn byd ac eglwys; am amgylchedd ei gartref mewn gwlad a thref; am aroglau a blas; am s\vn a golygfeydd; am bethau sy'n swyno ac am bethau sy'n aígas. Rhydd ei farddoniaeth ef werth ar ddyn fe1 dyn ac nid fel peiriant. Clywir yn ei waith sain yr utgorn a ddylid ei glywed yn groyw yn ein gwlad a'n byd y dydd- iau hyn. Datgan a wna barddoniaeth o'r math yma y pwysigrwydd inni feddwl yn nhermau hapusrwydd yn hytrach nag yn nhermau cymhwyster peiriannol. Nid taflu ffigurau atom megis economydd a wna'r bardd ond ennyn ein cydymdeim- lad â'r gweithiwr ac â'i deulu. Math arall o farddoniaeth yw hwnnw