Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

parodrwydd i dderbyn her y profiadau hyn i'n safonau moesol a meddyliol. Canu am ei brofiadau a'i ymdrech i'w adnabod ei hun wrth ddatblygu ei bersonoliaeth a wna'r bardd hwn felly. Ac y mae anbenigrwydd i'w waith. Gellir yn helaeth ei gymhwyso at fywyd poib un ohonom, gan fod pob person byw, fel y bardd ei hunan, yn fath o faes ym- ladd rhwng y gorffennol a'r dyfodol. Gwna'r farddoniaeth ni yn ymwyibodol o'r nerthoedd sy'n chwarae ar ein ym- wybyddiaeth fel y gallom gael gwell cyfle Mae gwên fy meistyr tirion megis gwawr I mi, garcharor, mewn anghysbell le; Bu'i fachgen yntau yn y tywydd mawr Dan arfau'r uffern hon, ymhell o dre. Yma, rwy'n unig, unig er ys tro, A'm ceraint lawer milltir flin i ffwrdd; Pan sangwyf ddaear fy nghynefin fro Tybèd a ddaw Antonio bach i'm cwrdd? Rhyngof a miri'r hogiau derfyn dydd Mae gwahanfuriau llawer estron air; Pa bryd y clywaf eto glychau rhydd Yn distyll hedd o dyrau Eglwys Fair? Bob hwyr, yn nhân y gegin ym Mhenlan Mi welais des ar winwydd ger Milan. Penuwch, Ceredigion. i'w deall ac i reoli ein hadwaith tuag at- ynt. Dwg "adref" i bob un ohonom ei bwysigrwydd yn nhrefn pethau, a'r aiigy- hoeddiad, waeth pa mor ddistadl y bo dyn, ei fod yn rhan hanfodol o fywyd a bod ganddo le pendant mewn bywyd. Dyna'r rheswm mai ein gwaith ni rai diawen yw ceisio deall y bardd cyfoes a'i amrywiol ffurfiau. Ac o'i ddeall a'i ad- nabod, ein hadnaibod ein hunain. Ei ddeall yn ddiragfarn ac nid dadlau yn rhagfarnllyd yn ei gylch. CAETHIWED JOHN RODERICK REES.