Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hollti'r Atom Gan W. J. BOWYER MEWTN darlith gyhoeddus a draddod- wyd yn Llundain ryw chwarter canrif yn ôl, dywedodd Syr Oliver Lodge ei fod yn gobeithio'n angerddol na ddar- ganfyddai dyn foddion i ryddhau'r ynni anferth hwnnw sydd ynghlo mewn natur cyn iddo ymddatblygu digon mewn cyf- rifoldeb a doethineb. Fe brofcdd erch- ylltra Hiroshima a Nagasaki nad disail ei bryder, ac ofered ei obaith. Pan ddisgynnodd y bom atomig cyntaf, nid oedd yn anodd i hyd yn oed y dyn cyffredin sylweddoli'r posibiliadau mawr sy'n deillio o ddarganfod ffordd i dapio'r ynni dihysbydd hwn. Honnid gan y newyddiaduron fod cyfnod newydd wedi gwawrio ar hanes y byd. Sonnid am fedru ffrwyno'r ynni fel na byddai raid i ddyn yn y dyfodol ddibynnu ar lo a grym dwr i ddiwallu ei anghenion mewn ynni. Nid "dynamos," meddid, a fydd- ai'n dihidlo trydan yn y dyfodol, ond atomau chwâl. Dyma bwer a fyddai maes o law yn ysgafnhau baich dyn. Yr oedd sôn hefyd am fedru ffrwyro pelydriadau dinistriol y proses i wella pob math ar glefydau. Ni welid yr anawster- au gystal. Fodd bynnag, yr oedd ad- waith arall, sef dychryn: yr oedd ym meddiant dynoliaeth y moddion i gyf- lawni hunanladdiad, a hynny'n gyflym ddisyfyd. "Y mae'r posibiliadau," meddai un gwyddonydd enwog, "yn frawychus. Byddai difa ychydig bach o fater yn llwyr yn cynhyrchu digon o ynni, o'i gamddefnyddio, i ddifodi cenedl gyf- an." Sonnid hefyd am ddifodiant yr hyn sydd yn aros o wareiddiad! Dynodai ffrwvdriad y bom atomig cyntaf y pwynt eithaf mewn datblygiad cyson a ddechreuodd yn niwedd y ganrif ddiwethaf, a chais yw'r ysgrif hon, yn fwyaf neilltuol/i roddi braslun o'r dat- biygiad hwnnw. Gellid disgwyl i ddyn yn fore iawn ymddiddori yng nghwestiwn natur a chyf- ansoddiad mater. Bu athronwyr Groeg, rai canrifoedd cyn Crist, yn myfyrio uwchben y broblem, ac yn eu holi; eu hunain a gyfansoddir mater o fân ronyn- nau na ellir eu hollti'n fanach. Iddynt hwy yr ydym yn ddyledus am y syniad o atomau fel "priddfeini sylfaenol" mater — syniad digon amhendant a phen- agored yr adeg honno, wrth gwrs. Ond er i'r drychfeddwl hwn brocio'r meddwl dynol mor bell yn ôl, bu'n rhaid aros hyd ddechrau'r ganrif ddiwethaf cyn cael theori a ragfynegai ganlyniadau a ellid eu gwireddu dnvy atbrofion. Yn 1807 lluniodd John Dalton ei theori enwog, ac am bron ganrif wedi hynny coleddwyd y syniad o atom fel gronyn bach na ellid ei ddinistrio na'i greu, yn belen fach gron a chaled a chadarn ei hamddiffynfeydd, na ellid fyth yn dragywydd ei hollti. Allan o'r uned hon y cyfansoddir mater yn ei amrywiol ffurfiau. Gelwir y math symlaf o sylwedd yn "elfen," ac y mae 92 ohon- ynt (rhai megis haeafn, copr, arian, ocsygen, etc, yn .gyffredin iawn inni). Y mae iddynt oÜ eu hatomau arbennig eu hunain, yn amrywio mewn pwysau o hydrogen, yr ysgafnaf hyd at wraniwn, y drymaf. Gall atomau o wahanol elfen- nau uno â'i gilydd i ffurfio cyfuniad a chanddo briodoleddau hollol wahanol i'r elfennau eu hunain. Er enghraifft, gall ocsygen a hydrogen (nwyon) ymuno i ffurfio dwr; a sodiwm (metel meddal ar- bennig) gofleidio chlorîn (nwy melyn- wyrdd gwenwynig) i wneud halen. A chyfuniadau o wahanol elfennau yw'r sylweddau a welir ar silffoedd siop-