Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

sylweddau radioaçtif yn ddognau bach cymwys i'w defnyddio ar gyfer problem- au meddygol. Ychydig filigramau yn unig o radiwm sydd ar gyfer ysbytai ein gwlad ni heddiw, ond gellid cynhyrchu, trwy adwaith cymharol eiddil o'r teip a ddisgrifiwyd uchod (trwy "hollti"), swm o sylwedd radioactif a fyddai'n gyf- werth â channoedd o filoedd o ramau b radiwm. A ellir troi hyn i fantais, tybed, rywbryd? Y FFLAM Rhoddaist ferw i'r stwceidiau Dan y fantell simne fawr, A'r boncyffion, yn dy olau, Megis darnau gwyllt o'r wawr. Diflin laib dy dafod weithian Wanai'n araf drwy y dur; Gòrffwys mwy heb iaith i gwynfan- Bair anniddos wrth y mur! Tawdd ei weddill sgrap yfory 'Nghnewian dy gyndaredd coch, O! na'th leddfai yng ngyrr y ffatri Atgof lleddf am besgi moch! I derfynu, dylid .nodi hyn: O saf- bwynt theori, dylai cnewyllyn atomau llawer o'r elfennau fedru ffrydio ynni o dan amodau arbennig. Hyd yn hyn, ni wyddom am ffordd i gychwyn nac i ddofi unrhyw adwaith ciewyllynnol ond hwnnw a elwir yn "hollti." Pwy a ŵyi na ddarganfyddir rywdro, yn y dyfodol pell, fethod natüriol o'i ryddhau fel hwnnw a ddefnyddir gan natur fel ffyn- honnell ynni'r haul? JOHN RODERICK REES.