Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Afon Gan EIRIAN DAVIES* HAF Tawel y dylifa Tywi-a'r haf Yn rhemp ar ei thwyni; Ar lwyn mae'r awel heini. A naws haul yn ei dawns hi. Erwau gwair, nis heria gwynt,-fe â'n ddwv Yr afon ddofn drwyddynt; Troi'n dawel a dihelynt Ar ddôl yn hefol ei hynt. Mae'r aur hael yn drwm ar yr ŷd,—y wlad Dan oludoedd hefyd; Ar gaeau ceir hau o hyd, Ac o'r hau, gorau gweryd. A welo'i dyffryn helaeth-min hwyr mwyn, Hir y mawl ei driniaeth. Manwl fu pob hwsmonaeth I'r ddôl ddymunol a ddaeth. I oed ei cheulannau coediog-adar A 'hedant yn wibiog. Dwy lan ei dŵr dolennog Sy'n hafanu canu cog. I'r dwr bach rhodia'r buchod,-i'r gŵer O gaeau digysgod; Dan dawch tail i'r dail yn dod, Clerenna â'u clorynnod. Eog llithrog sy'n llathru-arian gloyw Croen gwlyb o'r pwll parddu; Â'i naid ysgafn a'i dasgu Tyrr lyfnder y dyfnder du. Ac irder haf ger ei dŵr hi,—ymlusg Am Ie yn yr heli; A sŵn Haith hisian ei lli, Tawel y llifa Tywi. *Bu'r awdl hon yn fuddugol yn Eisteddfod Myfyrwyr Cymru elenj,