Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

0 aneirif bethau, mor gain ydych, mor wyrthiol; Mor ddymunol ydych i bawb o feibion dynion: Canaf i chwi yr aneirif bethau. Nid mewn odl na chynghanedd nac unrhyw fydr rheolaidd y canaf; Nid gan wylio'r acenion a'r corfanau yn disgyn ac yn taro yn fwyn reolaidd y canaf, Ond i chwi, yr aneirif bethau, Uuniaf fy ngherdd fel y delo: (Weithiau yn gaeth, dro arall yn ffrwydwyllt fel dwr yn ei daflu ei hunan dros gwtpanau'r olwyn heb falio dim ond yn ardderchog rydd). I bob dim sy'n ddymunol y canaf; i liw yr eira sy'n gwahodd y pererin i gysgu, I feithder ac ehangder ei gynfas fawr dros yr holl wlad; I'r gwyrdd doniol a welir weithiau yn Uain yng nglas y môr, ac i fwng gwyn ceffylau aflonydd y môr, I'r llong lechi gyda'i stribed mwg sy'n hwylio i daith,—heb fod ymhell. Canaf i'r caregos a'r cregin sy'n loetran ar ôl y tonnau gyda sŵn gwag; Canaf i'r gwynt sych o'r de yn yr haf a hen wynt traed y meirw yn Ionawr; Y gogleddwynt a'r gorUewinwynt, gwynt y glaw a'r meiriol ffug: I'r pethau hyn i gyd sydd ymysg yr aneirif bethau eraill yn naturiol ac yn gwbl foddhaol—canaf. Hefyd i'r hen drefn sydd ar bethau ymhlith yr adar, yr anifeiliaid a'r hil ddynol: y cwbl fel ei gilydd; Bron yn unrhyw â'i gilydd: o wres y gwaed; harddwch ffurf a Hiw: Y gwryw cryf a phendant a'rfenyw dlos ddengar, geinach ei ffurf, feddalach ei chnawd; Yr ymdecáu wrth ddyfod y gwanwyn a'r ymdeimlad cryf o holl- fywyd a hoen y gwanwyn, Yr ymserchu a'r cenhedlu a'r gofal, Aderyn, anifail, dyn, Wryw a benyw: I chwi, lie bynnag yr ydych, i'r drefn a osodwyd arnoch, ie, ac arnaf innau hefyd; i'w holl lawenydd hi a'i holl wae — Canaf. Canaf i'r wybodaeth ohoni a ddaw ohoni, yr wybodaeth sy'n drwyadl ddymunol ar ôl ei meistroH: I chwi, beth bynnag ydych, sydd hefyd yn ei gwyibod/ac felly, fel minnau yn rhydd ac yn feistriaid oherwydd ei gwybod hi— Canaf.