Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y fun a garaf, Nid angyles yw, Ac nid lleian fydd, Ond tipyn o waed a chnawd Dan ddu lywethau. Diniwed-nid yw, Nid di-falais ei chalon, Nid unwedd ei meddwl  phurdeb ei gruddiau ceirios; Mam pob harddwch, Oen pob direidi, Mair pob didwylledd, Morfudd pob twyll, Ac iddi ni roddwyd Na barn na phurdeb moes, Na dwyfoldeb Ond a roddais iddi yn fy alltudedd. Priddlyd, cariadus, di-ddal yw: Minnau a'i câr. Heno yn nhawelwch f' ystafell, Heb ddim ond mudandod amdanaf, Ac anobaith annelwig o'm mewn Fe gefais gip ar Farwolaeth; Yn dechrau gwneud ei nyth, Yn dechrau strategiaeth ei goncwest. Yno 'roedd yn yr enaid, Yn chwythu allan y canhwyllau Ar ei hallorau. Yn bwrw'i wreiddiau- Yng ngwae fy hiraeth, Yng nghors fy anffyddiaeth. Fel llygoden y clywn ef Yn llyfu'i ddiddymdra ar fy siom, Fel hipopotamws Gollyngai ei gorpws Yn swrth ar wellt fy mreuddwydion; Ychydig frwydro, Ychydig ymwingo mwy, Ac fe syrth ei brae. Coleg Bala-Bangor. PRIDD MARWOLAETH D. ALUN LLOYD