Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fflachiau GWOBR NEWYDD Cam ymlaen ydoedd gwaith Pwyllgor Eisteddfod Bae Colwyn yn cynnig gwobr arbennig am ddarn o farddoniaeth heb gyfyngu na thestun na dull. Ni wyddom a ddilynir y cynnig cyntaf gan gerdd nod- edig; ond yn sicr dylai fod lle yn yr Eis- teddfod i'r beirdd tyner eu hawen sydd yn gwrthod neu yn methu ymgodymu â thes- tunau gosodedig' a chyd-amodau amryw- iol eraill. Gdbeithio yr anfonir i gystad- leuaeth fel hon-y dylid ei pharhau- gerddi na fwriadwyd yn y lle cyntaf ar gyfer yr Eisteddfod. NOFELAU BEIBLAIDD. Sylwodd Miss Kate Roberts yn ddiw- eddar ar un bwlch pwyisg yn ein llen- yddiaeth: ychydig iawn o nofelau hanes- yddol sydd gennym. Y mae'n beth rhyf- edd nad oes gennym hefyd fawr ddim nofelau Beiblaidd. Cawsom "Yr Ogof" yn ddiweddar ac, er ei gwyched, dengys ei diffygion mai gwaith pur anodd yw ymgymryd hyd yn oed â'r nofel Feiblaidd. Rhaid yn gyntaf wrth wybodaeh fanwl o'r cefndir. Dyna'r allwedd gyntaf i lwydd- iant "Jacob" Thomas Mann. Gwelsom yn ddiweddar ganmoHaeth fawr i nofel gan Eidalwr, Riccardo Bachelli. "Galarnad Mab Lais" yw enw'r nofel, a daw'r testun o II Samuel iii. 13-16. ARDDANGOSFA GYMREIG. Gwnaed trefniadau i gynnal Arddang- osfa o Gelfyddyd Gyfoes Gymreig yn Llundain. Cynhelir yr arddangosfa yn Heal's Mansard GaiUery, 196 Tottenham Court Road,'Llundain, yn Ionawr 1948. Mae Mr. A. G. Tennant Moon, yr artist Cymreig, wedi arwain gyda'r gwaith o drefnu'r digwyddiad, a gobeithir dangos gwaith ein hartistiaid mewn casgliad cyn- rychioliadol. Dyna faes y mae o'r pwys mwyaf i Gymru ei feddiannu. Hyderwn y bydd yr arddangosfa hon yn sbardun i gymell symudiad i'r cyfeiriad priodol. ANFON TELEGRAM Cawn achos weithiau i anfon telegram ar y teleffon yn Gymraeg. Yng nghanòl y Gymru Gymraeg y byddwn wrthi, a bydd "Telephones, Chester" yn ateb ein cais. Cafwyd y teleffonyddes yn ddigon parod bob amser i gymryd telegram yn Gymraeg, ond rhywbeth cwbl disynnwyr yw'r iaith iddi, a threth fawr ar ein hamynedd a'n hamser ni-a hithau-yw gorfod dweud ein neges yn stribed diystyr o lythrennau. Wedi'r adrodd, byddwn yn gofyn i'r ferch ddweud y neges yn ôl, inni gael gweld a gymerwyd hi'n gywir ganddi, a bydd hi'n cytuno i hynny'n eithaf parod, chwarae teg iddi. Eir ymlaen yn y dull yma, megis: "F — for fool, F for fool." "Pardon?" F- for fool. Twice, isn't it?" "Yes, two fools!" Ai felly y dylai fod, tybed? DE VLAM Yn ystod y flwyddyn hon cychwynnwyd papur wythnosol newydd yn Holand o dan y teitl DE VLAM, a Tom Rot, Amster- dam, yn olygydd iddo. Wythnosolyn i hyrwyddo sosialaeth a heddyohiaeth ydyw yn bennaf, a deaUwn fod iddo ddylanwad- nid bychan. Mae'n amlwg fod 'fflarn,' yn simbol sy'n apelio, a chyd-ddigwydd- iad hapus yw cychwyn mewn dwy wlad fechan ddau gyfnodolyn o'r un enw. Ý. mae Y FFLAM yn estyn cyfarchion gwresog i DE VLAM.