Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JOHN EDWARD LLOYD Ganwyd yn Lerpwl, yn fab i Edward Lloyd, dilledydd, a oedd yn ddiacon yn eglwys Annibynnol Grove Street. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aber- ystwyth a Choleg Lincoln, Rhydychen. 0 1885 i 1892 bu'n ddarlithydd yn y Gymraeg ac mewn Hanes yng Ngholeg Aberystwyth. Yn 1892 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd a chofrestrydd a darlithydd mewn Hanes yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Arholwr allanol mewn Hanes i Brifysgol Genediaethol Iwerddon o 1916 hyd 1920. Darlithydd 'Ford' ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1919-20. Traddodi Darlith Goffa Syr John Rhys ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1928. Yr oedd yn dal graddau M.A. a D.Litt. Rhyd- ychen a doethoraeth anrhydeddus oddi wrth Brifysgolion Cymru a Manceinion. Cym- rawd o'r Academi Prydeinig. Fe'i gwnaed yn farchog yn 1935 ac, ymhlith anrhyd- eddau lawer eraill, ef yn 1934-35 oedd llywydd Undeb yr Annibynwyr yng Nghymru. Ei waith mwyaf adnabyddus yw: "A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest", yn ddwy gyfrol. Cyhoeddodd hefyd "The Welsh Chronicles", "The Story of Ceredigion", "Owen Glendower", "A History of Wales". Golygydd Hanes Sir Gaerfyrddin. Golygydd cyntaf y Geiriadur Bywgraffyddol a baratoir dan nawdd Cymdeithas y Cymrodorion. Claddwyd yn Ynys Dysilio ym Menai. Barnai: "Mae'n bryd i'r byd oddi allan ddysgu mai o Gymru ei hunan bellach y mae i ddisgwyl arweiniad awdurdodol ar hanes Cymru a'i hiaith a'i llenyddiaeth". "Ni wnaeth neb fwy na Syr John Lloyd", chwedl y Dr. R. T. Jenkins, "i ddysgu'r wers jbtoano i'r byd".