Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yng Ngolau'r Fflam BARDDONIAETH PKEIDD1AU AJSiNWN A CHEHDDI EKAILL gan Tom Parry-Jones (Gwasg Aber- ystwyth). Pris 1/ Pa faint bynnag a fu'r ennill i lenyddiaeth o Eisteddfod Aberpennar, bu erchyll y golled. Collwyd epig pan symbylwyd awdur pryddest "Preiddiau Annwn" i grynhoi gweledigaeth odidog i gwmpas tri chan llinell. Darn o lenyddiaeth gain yn unig a gat- wyd; collwyd cynnyrch mydryddol a ddygai chwyldroad i fyd y ddrama Gymreig. Pri- odwÿd ynghyd glasuriaeth Gymreig a Groegaidd mewn un cynllun praff dan law meistr. Yn y caniad cyntaf, adroddir methiant Arthur a'i wyr arfog i ryddhau Pryderi o garchar Annwn. Yn yr ail ganiad, gwelir methiant cyffelyb Orffews ar yr un dralaei i ryddhau ei anwylyd. Pan yw ar fin llwyddo, tyr yr amod. Ond lIe methodd arfau a chelfyddyd, daw'r Crist buddugoliaethus: "1 ddwyn fy eiddo o Annwn Deuthum hyd ffordd nas adnabu deithiwr. A'r ffordd a dramwyais i'r ffin, Hon a fydd y Ffordd newydd heibio i Annwn i enaid." Rheidrwydd naturiol y cynllun a ddug i'r llwyfan Pluto, Persephone, Charon, y Naw Morwyn, y gwyliedydd Amser a Cerberws. leuwyd cynildeb a diwylliant; y loes yw darllen y myrdd linellau a edrydd y mawredd araf a gollwyd. Loes yw synio i reol Eis- teddiod gael gwared o fai Orffews mor swta â hyn: "Y Naw: Wele! Try'i ben yn esgeulus, A gwêl yr un goll o'i galon. Pluto: Fe'i cipiaf yn ôl i'm prifiys. Persephone: Yn ôl i wylo. Y Naw: Gwae ef yn ffoi o flaen yr hen fôr-fawr gyfarth. Pluto: Caed wae! y gollborth a gaeaf. I'n trechu, rhaid ieuo'r eryr sy'n trochi Ei adenydd yn heuliau dynion Ag aderyn y to! Persephone A gaeir dy borth ar garcharor hen yn dragywydd. Anodd o hyd yw dygymod â'r arbrawf o gymysgu ffrwyth gwrthryfel â chlasuriaeth. Ond yma, er y dylesid amlycach cynghanedd mewn rhai llinellau os am gadw perffaith undod y rhythm, dug y 'blesyn' fiwsig cyson i'r glust. Ffrwyth sylw craff a ffansi fyw yw cynnwys y rhan helaethaf o weddill y gyfrol. Ceir yma ymdeimlad â llawenydd y bywyd syml, agos i'r pridd-gwelwyd 'y brain catholig íel tre'n ehedeg bron,' y twrch yn 'nafi bach swil yn carthu ysbwriel o'i heglog stryd,' y gwyddau gwylltion a'u 'hadenydd anystywallt fel pell gleciadau rhew.' Ad- waith bardd i'w gyfnod yw cynnwys 'Llywodraethau,' 'Eirlys' a 'Dieithriaid.' Ceir ynddynt yr un cynildeb cyson. Coeth a da yw'r sonedau, yn arbennig yr 'Atom' a'i