Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'threfn Fynachaidd newydd gyfan, a'r 'Hen Felin': 'Rhyw un y gwyddwn i amdani, yn wyn Ar ben yr hen henfíordd frith gan droliau'r fro, A rhygnu'i phedair braich ar wyntog fryn Yn canmol grawn Sir Fôn! Nid oes ond meini wrth ddigroeso ddôr, Ac un o'r breichiau'n yrnbil ar yr Iôr." Nodweddiadol hefyd o'r holl ganeuon yw'r awyrgylch byw, cynhyrfiol a geir yng nghaneuon y môr a'r gân berffaith i'r salwn a'r aur a'r 'wraig o'r Nevada.' Gresyn na bai'r gyfrol yn fwy trwchus. Ond er ceined y cerddi byr, pennaf cysur yw disgwyl yr iachawdwriaeth a ddaw i'r ddrama Gymreig pan ymgymer awdur "Preiddiau Annwn" â datblygu cynllun cyffelyb wrth ei hamdden. Dinbych. DAFYDD OWEN. RHIGYMAU'R PRIDD gan William Jones. Gwasg Gee, Dinbych. Cynnwys y gyfrol hon yn agos i ddeugain o delynegion ac un soned. Plentyn Uwch- aled yw'r awdur, ac ni fuasai'r cerddi hyn yn bosibl ond i fardd o fro Hiraethog. Nid oes neb o'i ardal wedi canu yr un fath â'r bardd hwn, a hefyd y mae ei gerddi'n firein- ach a'i grefft yn sicrach na'i ragfiaenwyr. Y mae tristwch a dieithrwch Hiraethog yn Hond ei gân ac y mae'n feistr ar drosglwyddo tenmIàdau ac awyrgylch. Nid yw yn gwbl gartrefol ond yng nghaeau Tyn-y-Fírith ac o gylch Llidiart y Mynydd. O dan y canu i gyd y mae'r Cymro a'r tangnefeddwr. Y mae gan rai misoedd swyn ryfeddol iddo — Mai a Medi yn arbennig. Nid syn hynny; efallaij ym Mai y daw'r gwanwyn i Uwch- aled ac y mae'r haf wedi mynd heibio yno pan ddaw Medi. Hiraetha am a fu; gWê.l gilio o fwy nag un gogoniant o'i fro; mynych gymhara ddoe a heddiw. At ei gilydd, nid yw ei awen yn gaethferch rhigolau; nid un cynllyn sy ganddo i'w gerddi, er bod aml i "ond" tua diwedd cân ambell dro yn peri bod esgyrn rhai o'i gre- adigaethau braidd yn agos i'r wyneb. Fel y gellir disgwyl, y mae rhai o'i gerddi'n berffeithiach na'i gilydd, megis "Y Cae," "Darbi," "Yr Hen Fugail," "Cofio." Nid yw'n llwyddo bob tro. Y mae rhywbeth o'i le yn arw ar "Hwyr o Haf," Y mae'r gerdd yn anystwyth ac aneglur; dylai fod ganddo bennill canol am y plannwr. At ei gilydd, y mae gan y bardd hwn allu eith- riadol i greu'r awyrgylch a fedr beri bod geiriau cyffredin yn gadwedig yn ei gerddi, eithr ni fedrodd achub "ffa" yn "Hwyr o Haf." Credaf mai diffyg sýlfaenol "Hwyr o Haf" yw ddárfod i'r bardd gael ei ddenu gan syniad a oedd braidd yn smart a pharodd hynny ffuantrwydd yn y "cyffro cychwynnol". Ond eithriad yw'r gerdd hon mewn cyf- rol o delynegion nodedig. Llwyngwril. ABEL FFOWCS WILLIAMS. DIWINYDDIAETH FFEITHIAU CRED, gan John Baker. Gwasg Gee. Tt. 40. 1/6. Khoes awdur y llyfryn hwn anferth o dasg iddo'i hun: "ceisiaf fynegi," ebr ef yn y Rhagair, "y cyf eiriad y dylai diwinyddiaeth y blynyddoedd nesaf ei gymryd. (t.7) Deil fod "dwy ysgol eithafol mewn diwinyddiaeth" heddiw, y naill yn dwyfoli Crist ar draul ei ddyndod, a'r llall yn ei ddynoli ar draul ei dduwdod. Y mae'n cyfyngu ei sylw, felly, i Gristoleg neu athrawiaeth person Crist. Rhywle yn y canol rhwng y ddau eithaf y caiff ef y ffordd y dymuna i ddiwynyddiaeth y dyfodol gerdded ar hyd-ddi, ond