Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn fwy i'r dde o beth wmbredd ar du duwdod Crist nag i'r chwith ar du ei ddyndod, canys, ys dywed ef, "awdurdod dwyfol, nid delfryd dynol yw sail Cristnogaeth" (t.12) a chais dywyso ei ddarllenydd mewn tair pennod, a ffurfia gorff y gwaith, ar 'Yr Ymgnawdoliad', Yr Atgytodiad' ac 'Athrawiaeth yr lawn' i'r man lle y mae'n "rhaid gweled mai cyflawndër y Duwdod, nid uchafbwynt dyndod, yw'r Arglwydd Iesu" (t.40) Problem diwinyddiaeth erioed ar bwnc person Crist fu ceisio diffinio dull ac ystyr ac arwyddocâd perthynas ei ddyndod a'i dduwdod. Yn ei bennod àr 'Yr Ymgnawdoliad' fe ddywed yr awdur:. "Ni allwn ni ddatrys problem y 'ddwy natur' (t.21). Ond dyma debygaf, un o broblemau sylfaenal athrawiaeth yr Ymgnawdoliad, ac y mae'n rhwym- edigaeth ar ddiwinydd o leiaf i ymgodymu â hi, onid e, mewn gwaith yn ymdrin â pherson Crist, geill y darllenydd yn hawdd iawn gael ei gamarwain, a hefyd gellir yr un mor hawdd gamddarllen yr awdur. "Datguddiad o Dduw, nid datguddiad o ddyn perffaith, ydyw'r Ymgnawdoliad" (t.12). Ond paham na ellir dweud fod Iesu Grist yn ddatguddiad o ddyn perffaith hefyd? Oherwj'dd, os nad oedd ef yn ddatguddiad o ddyn ar ei orau yn gystal ag yn ddatguddiad o Dduw, y mae perygl inni syrthio i fagl Apolinariaeth neu i'r cyfeilior- nad, hynny yw, mai dyndod amhersonol a feddai. Ni chredaf fod dweud hyn yn an- nhegwch â'r awdur, yn enwedig wedi sylwi ei fod yn barod i "ganiatáu i Grist briod- oleddau megis hollalluowgrwydd a hollwybodolrwydd" (t.16)­gosodiad a eill beri i'r darllenydd deimlo fod cyflawn ddyndod Crist wedi gwisgo'n bur denau dan ei driniaeth. Yn ei bennod ar 'Athrawiaeth yr lawn' fe ad inni deimlo eto ryw ddibristod yn ar- wyddocâd y dyndod yng Nghrist. Condemnia'r athrawiaeth foesol am yr lawn Dywed mai "iawn gwrthrychol," hynny yw, digwyddiad a effeithiodd ar "awdurdod" drygioni er mwyn dyn (t.33) oedd y marw ar y Groes (Gyda llaw, onid cywirach fyddai sôn am ALLU drygioni nag am ei "awdurdod", canys mewn diwinyddiaeth fodern dynoda'r gair 'awdurdod' hawl foesol fel rhan o'i ystyr, a diau na fyn yr awdur inni gredu fod gan ddrygioni hawl foesol ar ddynolryw.), ac nid, fel y golyga'r athrawiaeth foesol, amlygiad o gariad dwyfol, a'i rym yn yr apêl a wna'r Groes i ddilyn Crist. Beirniadaeth stoc, ond nid llai ei phwys oherwydd hynny wrth gwrs, yw hynyma ar yr athrawiaeth foesol. Eithr nid ymddengys y gwêl yr awdur uhrhyw werth o gwbl yn yr athrawiaeth hon. Anghymwys, yn sicr, yw'r ddamcaniaeth ar ei phen ei hun fel esbon- iad llawn ar farwolaeth Crist. Eto cydnabu'r Eglwys ar hyd yr oesau werth crefyddol a moesol dilyn esiampl Crist-y mae'n rhan anwrthod o wead ei chred, a hi welodd hefyd yn ei farwolaeth ymberffeithiad o'i waith fel esiampl i'w ddilynwyr. Yn y cyswallt yma barnaf ei bod hi'n hen bryd inni fwrw ymaith y gair camarwein- iol 'iawn' i ddynodi yr hyn a eilw'r Sais yn 'atonement'. Tybiaf fod 'cymod' yn add- asach gair o lawer, a bod "athrawiaeth y cymod" felly'n well cymreigiad o "the doctrine of the atonement" nag "athrawiaeth yr iawn," ac yn ddadl dros ei arfer ceir un o adnodau mwyaf allweddol y Testament Newydd, sef "Duw oedd yng Nghrist yncymodi'r byd ag ef ei hun". (2 Cor. 5:19). I'm bryd i, gwell yw cadw'r gair "iawn" at deip neilltuol o athrawiaeth ynghylch gwaith Crist, a sôn yn hytrach am "gymod" rhagor "iawn" i nodi'r gwaith hwnnw yn ei ystyr eang. Dywed Mr. Barker: "ni ellir deall Iawn gwrthrychol ond o'r safbwynt bod drygioni yn bersonol, yn fod ar wahan i ddyn (t.34) Satan Diafol." Fy hun, ni byddwn yn gwarafun iddo gredu mewn diawl, ond ofnaf mai esboniad rhy hawdd ydyw o'r profiad o demtásiwn ac o wrthrychedd pechod-^sboniad a eîll olygu fod cyfrifoldeb moesol unigolion â chymdeithas yn cael ei leihau, ac y mae hynny ynddo'i hun yn un rheswm dros bwyso'n hir cyn ei dderbyn. Ond ni thybiaf fod Mr. Baker yn ein hargyhoeddu o gwbl fod y diawl yn berson. Nid oes amau nad yw'r syniad o ddiawl yn un cyfleus iawn, wrth sôn am wrthrychedd temtasiwn a phechod, o'i arfer fel ffigur neu drosiad-trosiad sy'n ddiau mor anghyff- redin o drawiadol fel 'r wy'n barnu na bydd i ddynolryw fyth ymwrthod ag ef tra pery