Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

temtasiwn a phechod i'w flino, ond fel ynglŷn â phob trosiad arall gellir ei orweithio,, a'i gamarfer hefyd, mcgis yn achos y trosiad 'diawl' drwy ei droi'n wrthrych real. Wedi'r cwbl, oni chamsyniaf yn fawr, nid y diawl fel y cyfryw yw'r rfaith mewn prof- iad—damcaniaeth ydyw a gais esbonio'r ffaith honno. Yr hyn sy'n bwysig i'r. diwinydd yw gwrthrychedd temtasiwn a phechod, oherwydd gellir cystal. ac efallai addasach es- boniad ohono na rhagdybio y bod o ddiawl; a hyd y gwelaf i, y mae'r syniad hwn yn codi llawer mwy o anawsterau gerbron y diwinydd nag a symudo ymaith. Dywed mai ar dir profiad yn bennaf y daeth ef i gredu mewn drygioni fel bod an- nibynnol ar ddyn. Yn awr, yn y llyfryn hwn, rhydd yr awdur bwyslais mawr ar ffeithiau hanesyddol y Testament Newydd fel.sail i ddiwinyddiaeth, ond yma yn ei ymdriniaeth ar ddrygioni fel bod personol daw â phrofiad i mewn fel sail ychwanegol, ac nid ymddengys iddo lwyr sylweddoli fod ganddo bellach sail ddwbl i ddiwin- ydda arni, set y ffeithiau hanesyddol ynglyn â Christ a hefyd brofiad y crefyddwr-dau beth na ddwg ef i berthynas ddeallol a'i gilydd o gwbl. Ymhellach, fe ddywed:"Nid athrawiaeth ond ffeithiau yw sail diwinyddiaeth (t.13). Y mae'n amlwg mai cychwyn gyda digwyddiadau mewn hanes a wnaeth Cristnogaeth. Am hynny y mae ffeithiau hanesyddol y Testament Newydd, o raid, yn sail i unrhyw ddiwinyddiaeth y gellir ei galw'n Gristnogol, ond credaf ar y pen yma mai perttmasol i bwnc Mr. Baker yw gofyn ai'r fIeithiau hanesyddol fel y cyfryw ai ynteu'r ffeithiau wedi iddynt gael eu deongli yw sail diwinyddiaeth?—pa un bynnag a yw'r deongliad ohonynt yn mynd yn ôl at Iesu Grist ei hun yn llwyr neu'n rhannol ai codi a wnaeth allan o ffydd yr Eglwys. Os ffeithiau a ddeonglwyd ydynt, y mae athrawiaeth yn gystal â ffeithiau felly'n sail i'n diwinyddiaeth. Yn wir, ni thrafferthodd Mr. Baker ymchwilio i berthynas ffaith a ffydd, hanes a chred, ac odid na ellid disgwyl hynny ganddo i wneud cyfìawnder â'r testun-Ffeithiau Cred. Canlyniad diystyrwch yn hyn o beth yw ei fod yn anwybyddu braidd y ffaith fod yr Eglwys Gristnogol wrthi bellach ers tua dwy fii o flynyddoedd yn cyfeirio meddwl ei diwinyddion. Ni olygaf wrth ddweud hyn na thybiaf fod lle i'r unigolyn i ddiwinydda yn yr Eglwys. Gwae, meddaf, i'r dydd pryd na chaniateir i'r unigolyn o Gristion ddiwinydda ddrosto'i hun, a gallwn lawenhau o gael "Ffeithiau Cred" Mr. Baker fel ymgais gwr o argyhoeddiad i ymchwilio i berthynas ffaith a ffydd, hanes a chred, ac odid na ellid disgwyl hynny deongliad o'r ffeithiau a phroiiad Cristnogol-beth yw'r beithynas rhyngddynt fel seiliau i ddiwinyddiaeth? Byddai'n gaffaeliad pe bai'r awdur yn rhoddi esboniad llawnach inni ar y materion hyn. Rhaid gosod pen ar y mwdwl. Addefaf yn rhwydd i mi ddysgu cryn dipyn wrth ddarllen "Ffeithiau Cred", a hyderaf na'm camddealler pan ddywedaf fy mod o'r farn y talai i'r awdur ei hun gnoi ei gil arno. EUROS BOWEN DRAMA MEINI GWAGEDD, gan J. Kitchener Davies. Y Seiri Drama. Pris 1/3. Nid teg bwrw barn ar ddrama ar ôl ei darllen yn unig; rhaid ei gweled hefyd. Yn ei llwyfannu y mae drama'n orffenedig ac ni fyn yr un artist i'w waith gael ei farnu cyn ei orffen. Barnu gwaith heb ei orffen yw adolygu drama heb weled ei pherfformio. Y mae hyn yn arbennig o wir ynglyn â drama Bwysig, ddifrifol a beiddgar fel "Méini Gwagedd." Fe anelodd Mr. Kitchener Davies at safon uchaf y ddrama gyfoes. Rhaid i bob drama o werth wrth ei thema sylweddol neu bod ei sylfaen ar syniad mawr, boed hi drasiedi neu gomedi; ac wrth reswm y máe'n rhaid bod ynddi rhyw wrthdaro. Fe gaiff y dramaydd y gwrthdaro dyfnaf yng nghymeriad, yn enaid dyn. Gwelediad y bardd yn unig a all dreiddio i ddyfnderoedd y galon, ac yn y weledigaetb