Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

honno fe droir bywyd cyffredin yn ddrama ddynamig. Teimlwn fod awdur "Meini Gwagedd" wedi cyflawni yn llwyr yr amod cyntaf hwn. Ond nid yw y syniad na'r thema na'r farddoniaeth yn ddigon. Rhaid wrth ragor na hyn i wneud drama; y mae'n rhaid cadw "tyndra dramatig" drwy bob goiygfa, yr af- ael arbennig honno ar ddychymyg y gynulleidfa a grea ryw gydymdeimlad, neu ddis- gwyliad cyffrous ym meddwl y gwrandawr; a rhaid hefyd amrywio'r afael hon yn wastad drwy'r ddrama. Gwelwyd gwneud hyn yn wych iawn yn "La Maison de Bernarda," drama fawr Garcia Lorca a chwaraewyd yn y Ffrangeg yn Llundain ychydig fisoedd yn ôl. Ni all neb a welodd y ddrama hon angofio ei hawyrgylch a'r cleimacs; cri syfrdanol Bemarda fel y dlsgynnai'r llen: "Ma fille est morte vierge." Ni chyrhaeddwyd yr uch- afbwynt hwn gan awdur "Meini Gwagedd," a dyna, fe gredwn, yw ei gwendid hi fel drama. Nid camp dramaydd chwaith ydyw ymyrryd yn wastad â'r "switches." Clywch Will- iam Shakespeare yn chwarae â'r goleuadau: "But, look, the morn in russet mantle clad, Walks o'er the dew of yon high eastward hill." Ond na ddigalonned Mr. Kitchener Davies, fe fethodd Sean O'Casey yn y "Silver Tassie," er cymaint dawn a thalent Augustus John a Charles Cochran. Llongyfarchwn yn anrhydeddus Gymro llengar sydd wedi clywed yr alwad ac wedi gweld y ffordd. Nid yw ei farddoniaeth chwaith yn deilwng o'i gyweirnod. Dylasai'r farddoniaeth redeg ochr yn ochr â'i weledigaeth, a hawlia hyn safon Beirdd y Tywysogion a thradd- odiad uchaf llên Cymru. Ys gwir mai oes galed yw ein hoes ni, a llawer ohonom wedi gweld "lliw gwyar gwyr yn heli," eto os oes eisiau bod yn wrthrychol, gadewch i ni hefyd gael ceinder iaith. Y mae digonedd ò batrymau wrth law i Gymro. Diolch yn fawr i Mr. Kitchener Davies am fentro mor eofn. Eled eto i'r gors, i'r mynydd, i lethrau siroedd Cymru, a dyged yn ôl i ni ddrama fawr cefn gwlad; wedi ei saernîo yng nghoethder iaith a gweledigaeth bardd ac yn deilwng o draddodiad Gwalch- mai, Dafydd ap Gwilym, William Morgan, Ellis Wynne, Goronwy ac Emrys ap Iwan. Ac efallai y tro nesaf y gedy y plwm a'r llinyn ac y caiff ei gywair ymhellach yn Esaia: "Gwrandewch arnaf fi, ddilynwyr cyfìawnder, edrychwch ar y graig y'ch naddwyd ac ar geudod y ffos y'ch cloddiwyd ohonynt Efe a gysura ei holl anghyfanedd-leoedd hi Gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden a'i diffeithweh fel gardd yr Arglwydd. Ceir ynddi lawenydd a hyfrydwch, diolch a llais cân." Llúndain. R. R. HERBERT. "Y SMOTYN DU." Drama Fer, gan Gruffudd John. Y Seiri Drama. Llyfrau'r Castell, Caerdydd. Pris 1/3. Ar y clawr dyfynnir rhannau o feirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar 1946. Dyma ddywed Mr. D. Matthew Williams: "Y mae hon i bob pwrpas yn ddrama wreiddiol: cafwyd y syniad sydd y tu ôl iddi o hen faled." Efallai, ond ni ddywed yr awdur air am hyn. Hoffwn wybod yn sicr o ble cafodd yr awdur ei syniad, a chredaf y dylai ddweud hynny wrth gyhoeddi. Dyma i chwi paham. 'Roeddwẁ newydd fod yn chwarae mewn drama o'r enw "Fatal Curiosity" yn yr Arts Theatre, Llundain pan ddaeth "Y Smotyn Du" i'm dwylo i'w hadolygu. Drama farddonol yw "Fatal Cur- iosity" a sgrifennwyd tua 1720 gan George Lillo ac fe'i hactiwyd droeon yn Drury Lane a'r Haymarket gan John Phillip Kemble a'i chwaer Sarah Siddons yn y ddeunawfed ganrif. Hanes hen wr a'i wraig yng Nghernyw sydd ynddi yn cwyno a chwerwi yn er-