Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHAFF, gan William Owen. Drama Un-act. Gwasg Gee. 1/6. Tuedd gyffredin yw cwyno am safon y dramâu Cymraeg, a chredu nad oes na chelfyddyd na chydwybod gan y mwyafrif o'r dramodwyr Cymraeg. Nid oes yng Nghymru, ysyw- aeth, gorff a rydd wybodaeth am ddramâu diweddar a'u rhestru'n ddi-dderbynwyn'eb yn wych, da, ymarferol ac anobeithiol. Gan hynny, y mae'n rhaid i'r cwmnïau drama ddibynnu ar adolygiadau ac ar farn beimiad mewn ambell eisteddfod neu ŵyl ddrama. O'r herwydd prin yw'r beirniadaethau a phrinnach yw'r gofod mewn papur i adolygu'r holl ddiamâu, a'r canlyniad yw dewis drama hawdd ei llwyfannu a'r cymeriadau, o ran nifer, yn addas i'r cwmni. Ni chyfyd hyn obeithion y beirniaid drama, Ym myd y ddrama un-act, fodd bynnag, y mae gennym íel Cymry le i ymfalchio. Y mae rhai dramâu un-act Saesneg a wobrwywyd mewn gwyliau drama yn llawer gwaeth na'r mwyafrif o'r dramâu Cymraeg. Hawlia'r fath osodiad brawf, a cheir y prawi yn y ddwy ddrama yma, un ohonynt yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar, 1946. Gellir felly, yn deg, eu cymharu â dramâu cyffelyb yn Saesneg. Dramâu ymarierol ydynt, ac y mae hynny yn beth amheuthun yn Gymraeg, ac nid dramâu uchelgeisiol, yn yr ystyr arbrofol i'r gair. Rhaid felly eu barnu, nid fel y bernîr "Clychau Buddugoliaeth" neu "Meini Gwagedd" -arbrofion arbennig yn hawlio sylw ar- bennig ar wahân i'w deunydd ar lwyfan, ond rhaid barnu'r dramâu hyn o safon budd- ìoldeb ac ymarferoldeb a safon llwyfan. Disgrifir "RHAFF" fel ffars, a dyna ydyw. Nid yw'r plot yn un cymhleth iawn, ac wrth ddarllen y ddrama, tueddir i gredu nad yw'r stori'n werth y drafferth, — stori gŵr a fu'n gwisgo pais yn my'nnu, trwy gefnogaeth y forwyn, wisgo llodrau. Ond y mae mwy na hanner llwyddiant ffars yn dibynnu ar y chwarae-ac, er mor ysgafn yw'r stori, y mae yn y ddrama hon ddeunydd da i chwarae ffars. Y mae'r ymddiddan yn ystwyth a cheir ynddi ddigon o symud. Ceir ynddi bum cymeriad-tri gẃr a dwy ferch, ac y maent oll yn bersonau o gig a gwaed, er y gellid efallai wahaniaethu'n fwy pendant rhwng Morris a Pritchard, y ddau letywr. Gellir yn hawdd gyfaddasu'r iaith at bwrpas De a Gogledd, ac y mae yma ym- gais dda at.lunio iaith felly. O'i chymharu â dramau cyffelyb yn y Saesneg deil y ddrama hon ei thir. Nid yw'n ddrama wych, ond y mae'n ddrama a haedda ei chwarae, a cheir ynddi ddeunydd ym- arfer i gwmnïau sydd eisiau dechrau ymgodymu â thechneg chwarae ffars. PEDRITO, gan R. Bryn Williams. Drama Un-act. Gwasg Gee. 1/6. Drama i ieuenctid yw "PEDRITO" a hefyd yn ddrama gyffrous. Ceir ynddi bum cymeriad-pedwar gŵr ac un ferch. Y mae prinder dramâu o'r fath yn Gymraeg. Ceir dramâu plant a dramâü rhai mewn oed, ond hyd yn hyn ni chafwyd y toreth o ddramâu a luniwyd yn arbennig ar gyfer ieuenctid. Rhaid i ddrama felly fod yn farddonol, neu'n gyffrous, neu'n hanesyddol. Ni thâl drama real i ieuenctid-y dramâu sy'h ymwneud â datblygiad 'cymeriád cymhleth un mewn oed yn ein gwareiddiad arbennig ni. Nid yw'r ieuanc.'gan amlaf, a digon o brofiad ganddynt i chwarae cymeriad felly yn argy- hoeddiadol. Rhóddêr iddynt ddrama fel "Y Blaidd-ddyn"_a'r cefndir dychmygol yn y Canol Oesau, a gállant ddefnyddio dychymyg i argyhoeddi, neu rhodder iddynt ddrama gyffrous fel "Pedrito," lle y mae'r digwyddiadau yn fwy pwysig na datblygiad y cymeriadau ac eto, gallant chwarae'n argyhoeddiadol. Gosodwyd cefndir y ddrama yn y Wladfa, a gwych o beth yw hynny. Rhydd gyfle i'r cwmni ddefnyddio lliw ar y llwyfan, a rhydd iddo hefyd ryddid oddi wrth hualau di- ddychymyg y gegin. Y mae'r ymadroddion Sbaeneg, hwythau, yn gryn gymorth i ereu'r awyrgylch briodol.. Hen sail sydd i blot y ddrama-stori Robin Hood mewn gwisg newydd, a da yn trechu'n drwg ar y diwedd, a gwobr yr arwr, fel ym mhob stori gyffelyb yw serch y fun