Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a garodd. Nid gwendid yn y ddrama yw hyn-y mae'r ffram a'r cymeriadau yn rhoi bywyd newydd yn yr hen thema. Y mae'r cymeriadau i gyd yn gredadwy, a hefyd, ac y mae hyn yn efallai yn bwysicach, y maent yn gyson fel cymeriadau â'r mathau o bobl a gynrychiolir ganddynt. Un enghraifft yn unig sydd efallai yn amharu ar yr undod yma. Ar td. 8 ceir Harri Walter yn datgan ei farn, a dywaid: "Mae yna rywfaint o dda yn y gwaethaf ohono' ni." Datganiad o farn athronyddol yw'r frawddeg, ac ni chredaf fod lIe i'r fath yna o frawddeg mewn drama gyffrous i ieuenctid. Ar wahân i hynny, y mae'r dosbarthiad yn ddilys ac yn gyson. Yn y ddrama hon ceir cyfarwyddiadau llwyfan lled helaeth, a dywedir amdanynt: "Rhoddir mwy nag arfer ohonynt oherwydd y posibilrwydd i'r cynhyrchydd fod yn if anc hefyd" (Td. 4). Ni allaf ganmol hyn heb roddi rhybudd. Y mae'r cyfarwydd- iadau llwyfan yn felltith yn y dramâu Saesneg. Gan amlaf, cyhoeddir prompt-copy' goruchwyliwr y llwyfan, gan gynnwys manyhon y dodrefn, golygfa, symudiadau, etc., a gan amlaf hefyd, ymgeisia'r cynhyrchydd ddilyn y rheini'n fanwl, fanwl, heb fod na'r adnoddau na'r llwyfan ganddo. Digon tebyg mai canlyniad chwarae'r ddrama yw'r cyiarwyddiadau a geir yn "Pedrito," ond y mae'n bosibl y gallant gam-arwain cyn- hyrchydd ieuanc di-brofiad a'i lwyfan yn anaddas. Gallant fod o gymorth, ond gallant fod yn rhwystr hefyd. Mwy na hynny, ffordd ddiog, ddi-gelfyddyd o gynhyrchu yw dilyn cyfarwyddiadau llwyfan rhywun arall-nid cynhyrchu yw peth felly, ond dynwared, ac nid oes ynddo na rhin na gwirionedd. Y mae "Pedrito" yn ddios yn ddrama wych i glybiau ieuenctid, a gobeithiaf yn fawr y gwelir ei chwarae drwy Gymru, ac i hynny symbylu eraill i sgrifennu dramâu cyffelyb. Hyddent, fel y mae "Pedrito," yn gyfraniad i'r ddrama Gymraeg. Llangefni. DEWl LLWYD JONES. FY MAB HWN. Drama Un Act, gan Merfyn Ll. Turner. Gwasg Gee. Pris 1/6. Drama yw hon am ddyn a ddioddefodd gymaint drwy golli John ei fab yn y rhyfel na fyn ef wynebu ei golled. Cred y daw'r mab yn ei ôl, ac yn flynyddol ar ddydd ei ymad- awiad hwylia wledd i'w groesawu adref. Yn y ddrama mae'n paratoi am y trydydd tro. Gwr gweddw yw, a'i ferch yn gofalu amdano. Oherwydd ei phryder am ei thad. ddydd y trydydd dathliad, enfyn hi am hen ddoctor y pentref at ei thad a'i sgwrs hi â'r doctor sy'n agor y ddrama. Hefyd anfonodd am ei chariad sy'n ddoctor meddwl mewn clinig yn Llundain. Daw ef i mewn ynghanol y ddrama a siomi'r tad sydd, bellach yn disgwyl ei fab yn eiddgar. Yna daw gwas doctor y pentref â moddion cysgu a siomi'r hen wr am yr ail dro. A'r ferch a'i chariad am dro, a daw John adref. Eithr y mae cael ei siomi ddwywaith yn ormod i'r tad. Nid adnebydd ei fab. Y mae hwnnw'n cael braw ac yn ceisio'i chwaer yn wyllt trwy'r tŷ. Tra bydd ef ar y llofft mae ei dad yn paratoi gorddos o'r moddion cysgu mewn gwin iddo'i hun, ac yfed hwn y mae tra disgyn y Hen. Dyma gyfle i greu digwyddiadau dramatig. Fe lwyddodd yr awdur wrth lunio'r pin- aclau hynny, ond nid yw mor sicr ei grefft wrth eu cydio'n un cyfanwaith. Deirgwaith cawn fod "tawelwch am amser" — a'r actorion yn gwneud dim! Ar dudalen 21 dywedir "am amser bydd y llwyfan yn wag ac mor dawel â'r bedd." Yna daw'r tad i mewn "ac eistedd a'i ddau lygad wedi eu hoelio ar y drws. Felly y bydd am amser." Dyna fwy na digon i luddias rhediad y ddrama. Credaf fod yr hen ddoctor wedi ei greu yn rhy syml ac anwybodus, ac y mae'n anodd gennyf gredu yr oedai'r eneth am dair blynedd cyn galw meddyg at ei thad, yn en- wedig gan fod ei chariad yn ddoctor meddwl galluog. Ond i'm tyb i y mae trymach bai na'r rhain yn y ddrama. Ni chredaf fod gwerth dramatig gwirioneddol i weithred- oedd dyn nad yw yn ei iawn bwyll, ac anodd credu yr argyhoeddid cynulleidfa gan y ddrama. Ond, wrth gwrs, ei gweled ar lwyfan a brofa hynny.