Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hoeddi'n ddigon croyw fod Mr. Evans yn methu'n llwyr. Brawddegau cymysg yw'r rhainlle y pwysleisir rhan o frawddeg yn y dull Cymraeg trwy ei dwyn i'r lle blaenaf. Mewn nodyn sonia'r awdur fod yr Athro Henry Lewis yn "awgrymu" fod y ferf 'bod' wedi colli ar ddechrau brawddeg o'r fath. Nid awgrymu a wnaeth yr Athro onu gwneud gosodiad pendant, a dylai Mr. Evans ymgynghori â'r 'Bulletin of Celtic Stud- ies', X. 105-116, lle yr wyf yn cymharu'r gystrawen Hen Wyddeleg ac yn rhoi nifer o enghreifftiau o Gym. Canol i ddangos y gystrawen wreiddiol. Dangosais mai'r rheol oedu hyn: yn union o flaen y rhan a bwysleisir rhoir y cyplad yn y 3ydd person unigol neu luosog yn yr un amser a modd a'r brif ferf. Cystrawen wreiddiol "Dafydd a ddaw" fyddái 'bydd Dafydd a ddaw' (y cyplad a'r brif ferf yn ddyfodol), fel y ceir yn yr 'Hen Gerddi Crefyddol': "bydd chwerw y talawr" (= telir) yn y diwedd. 1 negyddu rhoid 'ny' o flaen y cvplad. Gyda threigl amser dirlannodd y cyplad o íiaen y rhan bwysleis- i iedig, ac yn negyddol daethpwyd i ddefnyddio 'nid' (e.e. 'nid Dafydd a ddaw' yn lle 'ni bydd Dafydd a ddaw'). Nid oes a wnelo Brawddeg Gymysg â Brawddeg Enwol Bur. t. 259. Wrth sôn am y frawddeg annormal dywed Mr. Evans nas ceir bellach yn yr iaith lafar. Chwilied ymhellach yn 'The Sentence in Welsh' (Henry Lewis) t. 20; 'Datblygiad yr laith Gymraeg, t. 118-9; 'Cystrawen y Frawddeg Gymraeg'; t. 106. Drwg gennyf fod mor llawdrwm ar lyfr a ddylai fod yn llanw bwlch difrifol yn nar- pariaeth yr ysgolion, ac ni fynnwn er dim fychanu llafur yr awdur. Eithr nid ew- yllys da yn unig a wna ramadegwr. Mae'n drueni bod camsyniadau elfennol a diffyg gwybodaeth yn amharu ar lyfr defnyddiol fel hwn. Sicr gennyf y caiff plant ac athrawon lawer o fudd ohono. Abertawe. MELVILLE RICHARDS. GWAITH YMCHWIL GORONWY'R ALLTUD: Glan Rhuddallt. Gwasg y Brython. Pris 3/6. Da y gwyr gwÿr Caernarfon am Glan Rhuddallt oherwydd ei erthyglau cyson a di- ddorol i'r papurau wythnosol. Perthyn i'r un traddodiad â Charneddog a Bob Owen, ac o wybod y caswir, dylid ychwanegu nad bob amser y gwelodd y triwyr hyn lygad yn llygad ar bopeth. Dynion garw am loíia mewn cornelau anghysbell, am ddegymu mentys ac anis dyddiadau ac achub y blaen ar ei gilydd mewn danganfyddiadau syfr- danol am fonedd a gwreng, beirdd a chantorion. Dyna hwy ac nid rhyfedd bod yr inc yn poethi weithiau. Cafodd Glan Rhuddallt dipyn o flaen ar ei gyfeillion pan roddodd Rhagluniaeth David Lloyd yn ewythr iddo—ewythr yn America cofier,— a gŵr, er hired ei dymor yn y wlad honno, a gadwodd ei ddiddordeb yng Nghymru a'i thraddodiadau'n fyw. Tuag ugain mlynedd yn ôl gwelwyd arwyddion o'r fantais a bu angen gras mawr ar Carneddog a Bob Owen tra ymddangosai erthyglau Glan Rhuddallt gyda'u cyfelriadau at ymdrechion David Lloyd i gwpláu stori Goronwy Owen yn America. Cysgod o gystadleuaeth iiniog fwy oedd hon,—o'r elyniaeth fonhcddig ddidrugaredd honno a ffynnai rhwng Thomas Shankland a J. H. Davies uwchben gyrfa ffwdanus y bardd o Fôn Gwyliai'r naill y llall a phrin y mciddiai'r un gyhoeddi erthygl arno gan ofn ei rhwygo rhwng bysedd creulon y llall. Coíir yn hir am anweddus lawenydd J. H. Davies yn cyhoeddi ei ragymadrodd i "Lythyrau Goronwy Owen" gan bwysleisio'r ffaith mai prin y croesodd Goronwy drothwy Coleg yr Iesu, ac yntau wedi gofalu gadael i Shankland lwyr orffen yr erthyglau yn Y Beirniad a briodolai lawer o wendidau-r bardd i'w "flynyddoedd" yn Rhydychen. Os oedd hi'n "Ha! Ha!" fawr yn Aberyst- -vyth yr oedd hi'n hen siglo pen ym Mangor. O tan hynny yr un ysbryd a barodd i Shankland orfIen yr erthyglau meistriaidd hynny yn Y Beirniad gyda'r geiriau: "Bellach bydd yn rhaid inni droi at hanes y bardd