Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn Fyrsinia." Geiriau o fygwth oeddynt: geiriau i bwyso ar stumog y gŵr o'r Cwrtmawr er mwyn atìonyddu ei gwsg â breuddwydion fod memrynau lawer ym Mangor a'i fod yn sicr o ddeffro i ryw fore o hunlle a gweld uwchben enw'r llyfrgellydd o Fangor ben- odau cyflawn yn cyfannu bywyd Goronwy. Nid ysgriiennwyd y penodau am y rheswm syml nad oedd y defnyddiau ganddo. Ond yn y chwarae mig hwn pa wahaniaeth am hynny! Teg i'r duwiau eu horiau digrifwch. Y mae'n hawdd gennyf gredu y rhoesai'r ddau, Shankland a J. H. Davies, groeso hael i lyfr Glan Rhuddallt. Ni fynnent ei feirniadu yn ôl eu safonau uchaf ond, o uníryd calon rnoddent "Ddiolch yn Fawr" garedig amdano. Argraffwyd ef yn destlus a got- aiwyd ei fod yn gartrefol ei arddull a darllenadwy. Yr unig unoliaeth ynddo yw'r testun a pherchir pcb Haith a'u cyírif oll yn gyiwerth. Sgrifennwyd rhai penodau gan Glan Rhuddallt ond eiddo David Lloyd, wedi eu cymhennu a'u trwsio, ydyw'r rhan helaethaf o'r llyfr. Bellach, ar sail y llyfr hwn, nid oes esgus dros beidio â gwybod bras hanes Goronwy yn Fyrsinia. Bydd yn rhaid i arbenigwyr lanw bylchau o gyfeiriadau eraill yn enwedig os byddant am ddeall safle'r drefedigaeth, ei bywyd cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd hynny, saíle'r Coleg a pherthynas Esgob Llundain ag ef ac â'r eglwys esgobaethol. Ond odid hefyd na theimlai awydd i anghytuno â barn David Lloyd am bersonoliaeth Goronwy. Lle y mae ef yn fwyn, ac yn ddall a byddar i'w wendidau amlwg, gorfodid gŵr o gydwybod a barn hanesydd i gydnabod y rheiny a chyfrif Goronwy fel y mwyafrif o blant dynion yn un brith iawn. Arferai fy nhad ddweud bod brycheuyn du ar gnawd pob gwyn a bod dau frycheuyn du ar lawer. Gwr y ddau frycheuyn i'r rhai a geisiai gyd-fyw ag ef oedd Goronwy, ond artist mawr ar gerdd dafod oedd efe iddynt hwy ac i bob cenhedlaeth o Gymry. Llundain. BEN BOWEN THOMAS. HANES HIL A HWYL Y CASTELL, gan W. Ambrose Bebb. Gwasg Aberystwyth. 1946. Tt. 91. 4/6. Peth anodd inni sy'n byw ynghanol y dirywio mawr a welir ar bob llaw ym mywyd Cymru hcddiw ydyw sylweddoli bod yma ryw ychydig o bethau sy'n mynd ar eu gwell. Ac fe geir rhai o'r gwelliannau hynny hyd yn oed yn y gyfundrefn ryfedd honno yr ydym yn ddigon cwrtais i'w galw'n Addysg. Meddylier am hanes Cymru. Nid oedd hanes Cymru yn bwnc digon anrhydeddus i gael lle ymhlith gwersi'r ysgol a roes gych- wyn ar fy ngyrfa "addysgol" i. Nid bod y pwnc yn cael ei esgeuluso, oblegid gwnaeth- pwyd cyíiawnder llwyr ag ef drwy roddi "golygfa" allan o hanes Cymru ar raglen y cyngerdd ambell Ddydd Gwyl Dewi. Nid bob Dydd Gwyl Dewi, wrth gwrs, oblegid, os coiiaf, dwy ddrama yn unig oedd yn "repetoire" yr ysgol, sef cyflwyno "Tywysog Cyntaf Cymru" (mab Edward 1., brenin Lloegr, oedd hwnnw, bid sicr!) i'r dyrfa oraw- enus yng Nghaernarfon, ac "Owain Glyn Dŵr a Syr Lawrens Berkrolles"! Ys gwir i bethau wella rywfaint yn yr ysgol sir, lle y bûm i'n ddigon ffodus i ddod o dan ofal athrawon a oedd yn Gymry da ac yn rhoi cymaint o le i hanes Cymru ag a ellid o dan amgylchiadau'r math hwnnw o ysgol. Ond nid oedd gennym ni ddim tebyg i'r llyfráu deniadol ar hanes Cymru i blant sydd wedi ymddangos yn y blynyddoedd diwethaf. Yn wir, byddaf weithiau'n çenfigennu wrth blant Cymru heddiw pan welaf eu llyfrau hwy a chofio'r llyfrau sychion a roddwyd i mi yn eu hoedran. O leiaf, cenfigennat wrth blant Cymraeg Cymru; nid oes agos cystal cyflenwad o lyfrau destlus ar hanes Cymru i'r Cymry bach di-Gymraeg. Ni ellir byth cael gormod o lyfrau diddorol i blant Cymru ar hanes eu gwlad eu hun- ain a chroesawn yn gynnes iawn lyfr arall eto oddi ar law Mr. Ambrose Bebb, sef "Hil