Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nym yn yn yr iaith lenyddol, gellid disgwyl yr ansicrwydd a amlygir yma a thraw gan yr awdur wrtn ddefnyddio íìuríiau megis "daethant" a "daethan nhw," "iddynt" ac "iddyn nhw." i Llyfr ydyw hwn a groesewir gan blant a chan athrawon sy'n chwilio am lyfr a fydd yn atodiad ac yn ychwanegiad bywiog i'w gwersi. Pantybeiliau. CEINWEN H. THOMAS. HEDDYCHIAETH CRIST A HEDDWCH, gan Hywel D. Lewis. Gwasg Gee. 1947. Tt.40. Anerchiad yw cynnwys y llyfryn hwn a draddodwyd i Henaduriaeth Methodistiaid Calfinaidd Arfon yng nghapel Engedi, Caernarfon, Hydref 14, 1946. Fe'i cynlluniwyd yn wyth bennod, a rhoddir adnod o'r Testament Newydd yn bennawd i bob un ohon- ynt. Ceir "Nodiad" beimiadol ar y diwedd ar "The League of Ultimate Pacificism". Y mae'r awdur yn ein hatgofio mai osgoi problem rhyfel a heddwch yw hanes y mwyafrif o aelodau'r Eglwys,osgoi ei gwneud yn broblem hanfodol grefyddol a dorrai at sylfeini ein bywyd a'n proffes" (t.9). "Ceisiwn," meddai, "feddyginiaethu safle adfydus crefydd drwy roi sylw i bopeth ond yr agweddau hynny ar sefyllfa'r byd heddiw sydd fwyaf eu sialens i'n crefydd" (t.ll). Cyhudda Gristnogion o esgeuluso "ein neges arbennig" (t.12), ac nid yw'n petruso dweud "fod dysgeidiaeth Iesu Grist yn gwbl anghyson â rhyfel ac ag unrhyw ddarpariaeth at ryfela" (t.15). Fe ofyn, "faint o heddychwyr a ddeallodd o gwbl beth sydd yn oblygedig mewn ufudd-dod union i ddysgeidiaeth yr Iesu?" Ei ateb yw: "ychydig iawn, mi gredaf" (t.17). Ond pa fodd y barnwn yn achos yr heddychwr hwnnw, er enghraifft, a fag- wyd mewn awyrgylch Cristnogol ac eto na honnai arddel Crist fel gwaredwr personol ond a gredai'n gydwybodol, er hynny, nad iawn iddo yw lladd ei gyd-ddyn dan amodau rhyfel? A beth am yr heddychwr hwnnw drachefn a gymhellir nid gan ras Efengyl y Cymod yn gweithio ar ei galon yn gymaint â chan y gred mai heddychiaeth Gristnogol yw'r egwyddor fwyaf cymeradwy; canys geill gŵr, mi dybiaf, fod yn heddychwr ar dir Cristnogol heb iddo ei broffesu a'i alw ei hun yn Gristion. Cof gennym weled y math hwn o wrthwynebydd yn ystod y rhyfel diwethaf. Braidd yn annheg, mi dybiaf, felly, yw dannod i heddychwr ei ddiffyg ufudd-dod i Grist, ac yntau, o bosibl, yn cyfrif nad yw ufudd-dod o'r fath, o raid, yn oblygedig yn ei heddychiaeth. Ys gwir mai cwbl gyson â safbwynt y Testament Newydd yw rhybudd yr awdur inni gofio "bod galwadau'r efengyl arnom ym mhob cylch o fywyd; ni ellir eu cyfyngu i arwriaeth heddychol" (t.33). Eto credaf na ddylem roi nad yw heddychwr Cristnogol yn Hal cydwybodol yn ei wrthwyncbiad i ryfel am ei fod efaHai'n methu mewn ufudd-dod llwyr i Grist. Ystyr hyn, wrth gwrs, yw nad yw arddel gwrthwynebiad Cristnogol i ryfel yn golygu ym mhob achos y bydd dyn yn ymfucheddu'n Gristnogol yn ei holl ymwneud. Y mae sant, hyd yn oed, yn para'n bechadur. "A fedrwn ni dderbyn delfrydiaeth yr Iesu a'i rhoi mewn gweithrediad?" (t.33). Datganiad yr awdur ar y cwestiwn hwn o'r eiddo ef yw "nad oes siawns i ni ddarganfod i cenhadaeth arbennig yr efengyl i gyfyngderau heddiw heb ein bod yn ymbaratoi i aberth ac ymroddiad anhraethol wahanol. i ddim a nodweddai ein tipyn crefydda llugoer ni yn awr" (t.35). Yn ei bamíîledyn "Crist a Gwleidyddiaeth" a gyhoeddwyd yn ystod y rhyfel diw- ethaf dywedasai Mr. Lewis: "Mae'n rhaid dod i delerau â chymdeithas na chydnebydd ein hegwyddorion yn llawn. A golyga hyn gyfaddawd" (t.16). Erbyn hyn, yn "Crist a Heddwch", y mae'n amau priodoldeb cymrodedd i'r Cristion, a deil "na welaf fod