Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lle i gyfaddawd sylweddol â hanfodion dysgeidiaeth Iesu Grist" (t.JO). Y mae llawer agwedd i broblemau rhyfel a heddwch nas trafodir ganddo yma o gwbl, ac eddyf yn ddiffuant ei fod "yn bur annelwig fy ngwelediad fy hun ar rai agwedd sylfaenol i'r cwestiwn" (t.9). Pa fodd bynnag, a chofio gair yr awdur nad oes ystyr i ddelfryd os nad yw'n ymarferol (t.29), carwn awgrymu na ellir gweld cymhwysiad y delfryd digymrodedd hwn yn eglur na gweld pa mor ymarferol a llesol y geill fod yn y byd sydd ohoni nes trafod y gwahanol agweddau cymdeithasol a gwleidyddol i broblem rhyfel a heddwch, heb sôn am gymhlethdod natur dyn. Eto, tueddaf, o'm rhan fy hun, i gytuno fod yn rhaid cynnal Cristnogaeth yn y byd fel delfryd digym- rodedd, ond ni chredaf mai ymlyniad wrth y delfryd digymrodedd yw'r ateb Cristnogol cyfiawn i broblcm rhyfel a heddwch. EUROS BOWEN LLYFRAU PLANT NIC OEDD, NIC FYDD, gan Gwilym E. Thomas. Gwasg Aberystwyth. 1947. Tt. 107. Llyfr i blant ysgol ydyw "Nic Oedd, Nic Fydd," wedi ei ysgrifennu, y mae'n amlwg, gan un a wyr yn dda am deithi meddwl plentyn. Y mae i'r llyfr ddiwyg digon ad-dyn- iadol; mae'r clawr yn lliwgar, mae'r darluniau gan lvor Owen yn ddoniol ac yn bwr- pásol iawn, a'r teip yn glir a destlus. Eithr, oni ellid teitl mwy deniadol na "Nic Qedd, Nic Fydd"? Efallai mai'r pwyslais a roddir ar y cyferbyniad rhwng amser y ddwy ferf a dery'n anhyfryd ar y glust, a phrin y credaf yr enynnai'r teitl ynddo'i hun ddiddórdeb mawr ym meddwl plentyn. Un o'r mân frychau ydyw hwn wrth gwrs. Cyfres o ddigwyddiadau doniol a geir yn y llyfr hwn. Cyfryngau'r digwyddiadau ydyw modrwy, drych a chadair,-gwyrthiol bob un ohonynt. Fe'u harweinir i iyd braf lle y mae troeon yr yrfa'n ddigrif, yn anhygoel ac yn llawn hud. Ceir chwe phennod yn disgrifio Nic yn troi ymysg brenhinoedd ac yn troi'r byrddau arnynt yn ddeheuig iawn yn rhinwedd ei allu i ymddangos a diíiannu fel y dymuna. Un o'r penodau mwyaf diddorol ydyw honno sy'n ymwneud â Chwaraeon y Cewri. Y mae'r ddeialog yn ystwyth a'r arddull yn ofalus a chywir. Edmygaf yn fawr allu'r awdur i weu priod- ddulliau diddorol i mewn i'r ymadrodd. Yn unig, carwn awgrymu­am fy mod yn gobeithio y cawn ragor o storiau Mr. Gwilym Thomas ar fyrder-bod yr eirfa ychydig yn rhy galed i stori'n ymwneud â hud a lledrith. Y duedd yw i blentyn sy'n mwyn- hau cynnwys y stori i deimlo bod gormod o eiriau anodd yn ei rwystro rhag mynd yn ei tlaen, ac i'r gwrthwyneb. Os yw'r plentyn yn ddigon hen i allu amgyffred y geiriau, tuedda i deimlo bod ansawdd y stori braidd yn blentynnaidd. Cytunaf ar unwaith mai peth da yw i blentyn ymgodymu â rhai ymadroddion anodd, eithr rhoi'r gorau i ddar- llen stori a wna os cyferfydd â gormod mewn cwmpas byr. Ÿr ydym yn ddyledus i Mr. Thomas am ysgrifennu stori mor fyw a naturiol i blant; y mae gwir angen am gyflenwad helaeth o straeon i blant, a mawr hyderaf y caiff y llyfr hwn dderbyniad croesawgar gan athrawon a phlant fel ei gilydd. Haycastlc Cross, Hwlffordd, Penfro. MUJNA HUGHES. GEIRIAU SYML, gan Gwilym R. Jones. Cyfres y Bwrdd Du-1. Gwasg Gee. Bwriadwyd y llyfryn hwn "ar gyfer y dosbarthiadau ieuengaf yn Ysgolion y Plant Bach," a üewiswyd ei argraffu mewn llythyren sgript. Y mae'r eirfa drwyddo yn ateb y diben yn ardderchog, a gwyr yr awdur, fel y dywed yn y Rhagair, "mor anodd ydyw i blant ieuainc ddarllen geiriau pan fo ynddynt fwy nag un llythyren gytseiniol ynghlwm wrth ei gilydd-hyd yn oed geiriau unsillafog." Darluniadwyd pob tudalen, er bod ambell un o'r darluniau yn gwbl anghelfydd. Fodd bynnag, dyma gychwyn i gyfres o lyfiynnau y geill y cyhoeddwyr Ientro brysio i chwanegu ato. EUROS BOWEN. EUROS BOWEN.