Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HENDRE CODI'N FORE, gan Gwladus Roberts. Y Darluniau gan Ivor Owen. Gwasg Gee. Llyfryn derbyniol o straeon syml, difyr. Os oedd raid cyflythrennu enwau cymer- iadau, tybiaf y buasai enw fel 'Anni Araf' yn adasach enw ar y falwen ddu na "Sali Slô," oblegid dysgu ystyr y gair "araf" sydd yn bwysig i'r plentyn a fydd yn ei ddar- llen. Llùngunio iaith a dysgu arfer wael i blentyn yw gwthio o flaen ei lygaid hyllbeth fel "slô" nad yw yn Saesneg hyn yn oed. Gallasai'r argraffydd fod wedi peri i'r ail liw crwedd yn gymhennach rhwng aml-linellau du rhai o'r darluniau. Y mae'r clawr yn ddeniadol dros ben. EUROS BOWEN. NOFEL I BLANT. Y DRYSLWYN: Nofel i blant rhwng 14-18 oed, gan Elizabeth Watkin Jones, Tt. 1-147. Gwasg y Brython. 1947. Pris 4/ Mae gennyf ddiddordeb personol yn y nofel hon ac efallai y goddefir imi ei nodi yma. Pan dderbyniwyd y rhybudd fod Pwyllgor LlOn yr Eisteddfod Genedlaethol i gyfarfod yn yr Amwythig er mwyn trefnu rhaglen Eisteddfod y Rhos, bûm yn trafod mater y testunau yma gydag un o'r ffermwyr mwyaf llengar y gwn amdano. Mynnwn iddo roi awgrymiadau am destunau newydd imi, ac ymhlith rhai eraill, nododd nofel i blant dan ddeunaw oed a chyfnod y goits fawr yn gefndir iddi. Gweddus cofnodi yma felly mai David Lloyd Jones o'r Hengaer Uchaf, Glan'rafon biau'r testun hwn. Darllenais y nofel â mwynhad mawr, ac nid oes gennyf nemor mwy i'w ddwettd am- dani nag a ddywedwyd eisoes gan y beirniad yn Eisteddfod y Rhos. Hyd y gwelais, nid oes ynddi un bai anachronyddol a llwyddwyd i gadw'n gywir i'r cyfnod o'r dechrau i'r diwedd. Eiallai, ar adegau, fod tuedd yn yr awdur i wthio braidd ar y mwyaf o "ífeithiau'r ceindir" i mewn i'r stori a bod hynny yn tueddi i dynnu sylw dyn oddi wrth y stori ei hun. Ond nid oes digon o hyn i beri tarfu ar fwynhad y darllenydd. Yma a thraw ceir ambell wall argraffu (e.e. Td. 24, ceir "clud" yn lle "clyd"). Nid wyf yn siwr ychwaith o ystyr y gair "dormach" ar td. 67. Eithr mân lwch y cloriannau yw'r pethau hyn i gyd. Canys y mae yma stori sy'n werth y cwbl. Cofiaf ddarllen rhai o storiau Dic Turpin a Habakuk Crab pan ocddwn yn hogyn, ond storiau byrion oedd y rheini os iawn y cofiaf, ac nid oedd eu techneg hanner mor orffenedig â hon. Llwyddodd yr awdur i sicrhau diwedd trawiadol ac annisgwyl hcfyd i'r rhan fwyaf o'r penodau. Hwyrach y gellir gorwneud hyn, a pheri i'r darllenýdd ddisgwyl am y peth, ond rhaid cofio serch hynny mai i rai o dan 18 oed y sgrifennwyd y stori ac mai dyma un o'r pethau a fwynheir yn neilltuol gan yr oed hwn mewn stori. Adroddir yr hanes o wahanol begynnau yn y pen- odau cyntaf a gweíir meistrolaeth amlwg yr awdur ar y dull hwn o gydâsio stori. Clymir pcnnau'r holl edafedd yn ddestlus a diwastraff ar y diwedd. Ni allaf ddatgelu cynnwys y stori gan mai stori antur yn cynnwys peth dirgelwch,- cr nid llawer, ydyw. Ond fe gewch ddisgrifiad byw o gegin braf hen dÿ tafam ar ddechrau'r ganrif o'r blaen; cewch grwydro twneli ac ogofeydd tywyll ac anhygyrch sy'n llawn o farilau gwin di-dreth o Ffrainc; cewch gwrdd â chysgod y Brodyr Llwyd- icn (na, nid mynaich!) ac ag un o Ustusiaid ystrywgar y cyfnod; hyn, hyn i gyd a llawer mwy. Ni cheisiwyd cymhlethu'r nofel trwy roi thema garu ynddi; y mae yma awgrym o hynny yma a thraw, ond peth dibwys yn y cefndir ydyw ac y mae'r nofel, i'r oed hwn, yn llawer gwell o hynny. Hoffwn ganmol y ddau lun, y naill ar y siaced lwch a'r llall ar yr wyneb-ddalen. Gwaith Mr. Meirion Roberts yw'r ddau. Amheuthun, yng Nghymru, ydyw cael arddull ychydig yn wahanol i'r cyffredin. Yn y lluniau hyn, fel yn y nofel, y mae'r un gofal