Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

manwl am gywirdeb hanesyddol yn y gwisgoedd a'r amgylchedd. A phetai hynny'n bosibl, fe garwn weled gwneuthur ffilm allan o'r nofel hon yn Gym- raeg; mae'r stori yn addas i hynny, mi dybiaf, a heb os, byddai cymaint brwdfrydedd a mwynhad o'i gweled ar y sgrin ag a geir o'i darllen rhwng y cloriau. Yn ddiddadl, dyma un o'r storiau gorau i blant rhwng 14-18 oed a ddarllenais, ac eiddigeddaf wrth y pleser a gânt gyda hi ar hirnos gaeaf neu hwyrddydd haf. Coleg Harlech. D. TECWYN LLOYD. DRAMA I BLANT NAAMAN, gan W. R. Davies. Gwasg Aberystwyth. Pris 1/ Yn anaml iawn y cyhoeddir dramâu beiblaidd syml yn y Gymraeg i blant. Yn ddiau drama i'w chymeradwyo yw "Naaman" W. K. Davies. Cynnwys saith gymeriad: Naaman, Eliseus a Gehazi yn chwarae rhan amlycach na'r lieill ar ôl agoriad awdur- dodol a bortreadir gan Frenin Israel. Dengys yr iaith goeth a chref fod yr awdur yn meddu dawn i ddeall meddwl plentyn. Gwëir brawddegau pwrpasol a gyíetyb i bob achlysur bywyd, íel llonder, mawredd, tosturi a gwae mewn dull addas i íwynhad yr ifanc. Trawiadol yw'r dyiyniadau byw o'r Beibl. Bydd dysgu'r gwaith hwnyn faeth a bendith i'r plant ymhob ystyr. Seiliwyd y fteithiau ar stori'r Beibl ond mewn mannau gesyd yr awdur gymeriadau i symud neu lefaru heb gadw at y gwreiddiol. Yn sicr, ychwanega'r gelf hon o greu a rhediad naturiol y digwyddiadau o un i llall at lwyddiant y chwarae ar lwyían. Manteisied ysgolion Sul a dyddiol Cymru ar y dcunydd gwych sydd yn y ddrama arbennig hon er adeiladaeth plant o bob oed. Caerdydd. ANNIE DAJNIEL. STORI DDIRGELWCH "Y GELLI BANT," Stori Ddirgelwch gan Meuryn. Gwasg y Brython, Lerpwl. Tt. 116. Pris 3/6. Yn ei "Philosophy of Composition," 1846, dywed Edgar Allen Poe fod i'r Stori Ddir- gelwch nifer o hanfodion. Dywed ei bod yn rhaid i'r nofelydd weld ei blot o'r dechrau i'r terfyn cyn cychwyn ysgrifennu, a'i bod yn rhaid iddo ysgrifennu mewn modd a geidw'r darllenydd bron yn llwyr mewn dirgelwch hyd y diwedd; eithr nid yn liollol — dylid rhoi iddo o bryd i'w gilydd friwsion o wybodaeth i gynnal ei ddiddordeb-rhai o'r briwsion yn anghywir, neu'n gamarweiniol. Pan ddaw'r dehongliad ar y diwedd, ni ddylai fod yn gwbl annisgwyl, rhag i'r darllenydd deimlo iddo gael ei dwyllo, ond dylai fod yn rhagor na'r peth a ddisgwylid, neu y tu hwnt iddo. Nhaid canolbwyntio ar y "philosophy" hwn, medd Poe, os am wneud y stori'n gwbl artistig. O dderbyn y dyfarniad hwn, ceir bod cryn gelfyddyd yn "Y Gelli Bant." Y plot yw'r peth pwysicaf yn y llyfr a darostyngir pob elfen arall iddo. Nid teg felly ei drin yn rhy fanwl mewn adolygiad, am y dibynna'r nofelydd i raddau helaeth ar y plot am ei lwyddiant i greu dirgelwch, er mwyn diddori a hudo'r darllenydd; ac yn hyn, y mae yn cyrraedd ei amcan. Mae ynddo gryn gywreinrwydd, a cheir cyn y diwedd droad effeithiol a da. Yn ei hanfodion, plot syml yw,-daw'r cymhlethdod sy'n pery'r dir- gelwch i'r darllenydd (yn ogystal ag i'r arwr, yr Arolygydd Penri,) drwy greíit y nofelydd. Mewn un neu ddau o bwyntiau, gweddol fân efallai, ceir yr argraff nad yw'r nofelydd yn hollol deg; ei fod yn esgeuluso ambell beth i'w ddibenion ei hun. Cymryd mantais o'r darllenydd yw peth o'r fath, ac nid yw'n deilwng o wir gelfyddyd y stori ddirgel- wch. Er enghraifft, er bod gan yr Heddlu eisoes ddiddordeb mawr yn Patrick Moore, Gwyddel llawn dirgelwch, ac eisoes yn ei ddrwgdybio, ac er bod He ganddynt i gredu