Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFLWYNO J. M. EDWARDS: Prifardd. O Geredigion; yn awr yn y Barri. Awdur "Cerddi Pum Mlynedd" a "Peir- iannau a Cherddi Eraill". T. ELWYN GRIFFITHS: Brodor o Landybie, Sir Gaerfyrddin. Bu am chwe blynedd gyda'r Llu Awyr yn yr Aifft, Palesteina a'r Eidal. Sefydlydd a golygydd "Seren y Dwyrain"-cylchgrawn Cymry'r Dwyrain Canol yn ystod y rhyfel diwethaf. Golygydd Cymraeg "Y Ddraig"- cylchgrawn Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. ALUN T. LEWIS: 41 oed. Mab i'r diweddar Barch. D. J. Lewis, M.A., Y Waunfawr. Addysgwyd yn Ysgol Sir Caernarfon a Choleg Bangor (B.Sc.). Athro Mathemateg yn Ysgol Kamadeg, Llanrwst. Y mae ganddo gyfrol o storïau byrion a ddisgwylir o'r wasg cyn diwedd y flwyddyn. Y mae yn Sanatoriwm Talgarth er mis Medi 1946, ac yn ôl yr hanes mae'n gwella. Mae'n briod a chanddo ddwy ferch. T. HUDSON-WILLIAMS: "Yr hen wron o ysgolhaig ag ef, yn adnewyddu ei ieuenctid fel yr eryr, ac wedi ym- ddeol o'i waith coleg yn meddiannu cyfandir llenyddol newydd i lenyddiaeth Gymraeg. Ef heddiw yw unig ladmerydd Rwsia i Gymru (S.L. yn 'Y Faner'.) Nid Kwsia yw ei unig ddiddordeb chwaith. Cofier "Y Groegiaid Gynt", "A Grammar of Old Persian", "A Short lntroduction to Comparative Grammar", "Groeg y Testament Newydd", etc. GLYN M. ASHTON: Brodor o'r Barri ac athro mewn Ysgol Ramadeg yng Nghaerdydd. M.A. (Cymru). Awdur "An English-Welsh Phrase-book". Swyddog yn Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru. Tal, main, sbectolog. MELVILLE RICHARDS: Addysgwyd yn Ysgol Sir Castellnedd a Phrifysgolion Cymru ac Iwerddon. Darlithydd yn awr yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Awdur "Llawlyfr Hen Wyddeleg", "Cys- trawen y Frawddeg Gymraeg", "Y Gelyn Mewnol", "Breuddwyd Rhonabwy", ,-yr olaf ar fin ymddangos. D. JACOB DAFIS: Brodor o Dregroes, Llandysul. Gweinidog gyda'r Undodiaid yn Aberdâr. Cyn-olyg- ydd 'Y Wawr'. Enillodd ar y dychangerdd yn Eisteddfod Aberpennar, 1946. Ar ei dystiolaeth ei hun: "gŵr bach duaidd, diog, dywedwst". HUGH GRIFFITH: Actor. Ei eni ym Marian Glas, Sir Fôn. Ar hyn o bryd y mae'n ymddangos yn un o ddramâu Jean-Paul Sartre yn y Lyric Theatre, Hammersmith, ac yn chwarae rhan Yr Arglwydd Esgob Salsbri yn y ffilm "The First Gentleman". STEPHEN E. DAVIES: Un o Gaio, Sir Gaerfyrddin, ydyw. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Shoreditch, Llun- dain. Ar hyn o bryd y mae'n brifathro ar ysgol gynradd Llawrybetws, Meirion. Ys- grifennydd Eglwys M.C. Glanrafon. A. G. TENNANT MOON: Ganed ym Mhenarth, Morgannwg yn 1914. Astudiodd yn Ysgol Gelfyddyd Caer- dydd, ac ennill Ysgoloriaeth Gelfyddyd Sir Forgannwg a'i galluogodd i barhau ei ef- rydiau yn y Coleg Brenhinol i Gelfyddyd yn South Kensington, Llundain. Yno yn 1936 enillodd Ddiploma Cymrawd.