Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bu'n dysgu celfyddyd mewn ysgolion yn Sir Forgannwg cyn ymuno â'r Llu Awyr, lle y bu am bum mlynedd. Cafodd ei apwyntio wedyn yn Ddarlithydd yn yr Ysgol Arlunio sydd yn rhan o Goleg Cclfyddyd Caerlyr (Leicester). Mae gwaith gan Mr. Tennant Moon yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ac yn Oriel Celfyddyd Casnewydd, Mynwy. Arddangosodd ei gynhyrchion deirgwaith yn arddangosíeydd haf yr Academi Frenhinol. WILLIAM THOMAS: Mae ei wreiddiau yng Nghwm Rhondda. Gŵr gradd ym Mhrifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth. Bargyíreithiwr. Aelod o Fwrdd lechyd Cymru. TED LEWIS EVANS: Fe'i ganwyd ym Mlaenau Ffestiniog. Gweithiodd am gyfnod yn y Llythyrdy, a bu'n chwyrlio bron bob nes am bum mlynedd yn trin llythyrau ar yr "Irish Mail" rhwng Crewe a Chaergybi. Ysgol Ganol Ftestiniog a Choleg Bala-Bangor. Ers dwy Hynedd beliach mae'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Bow Street a Borth, Ceredigion. W. J. BOWYER: Yn enedigol o Rhosllanerchrugog. Coleg Bangor. Athro mewn Ffiseg yn ei hen ysgol- Ysgol Ramadeg Rhiwabon. Ysgrifennydd Cangen Khos o Undcb Cymru Fydd. EIRIAN DAVIES: Nantgaredig, Colegau Abertawe ac Aberystwyth. Y mae ei wyneb ar y weinidogaeth. HEDYDD MILWYN: Brodor o Sir Aberteifi. Bu'n lowr yng Nghwm Rhondda yn ei ddyddiau cynnar, cyn gwneud ei nyth ynghanol coed y Pergwm yng Nghwm Nedd. Dafydd ap Gwilym, Gor- onwy Owen, Ceiriog, Daniel Owen, O. M. Edwards, ac ambell ffowlin, chwedl ef, íel Kitchener Davies a J. M. Edwards—dyna'i bartneriaid! Mae'n tynnu ymlaen, mae'n wir, erbyn hyn, ond "ffafr y Mawredd sydd uwchben; common-sens ac asbrin bob hyn a hyn, ac fe gân yr Hedydd am dipyn eto!" D. TECWYN LLOYD: Athro yng Ngholcg Harlech ac awdur "Erthyglau Beirniadol". Marcsydd (gynt) a gwrthryfelwr, ond aelod yn awr o Bwyllgor Lìên Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n perthyn yn agos i Lwyd o'r Bryn ac E. Francis Thomas, awdur "Nhyw Ystyr Hud". Bu yn Ysgol Ramadeg y Bala a Choleg y Brifysgol, Bangor. Ei hoelion wyth ydyw W. J. Gruffydd, T. Gwynn Jones ("Madog"), W. H. Auden, Lewis Mumford ac Arnold J. Toynbee. CYWIRIAD: Tud. 56, LI. 31: Yn lle "i ymchwilio" etc. darllener: i ymgodymu â rhai o broblemau ein ffydd. Sut bynnag, y ffeithiau am lesu Grist, TANYSGRIFWYR: Anfoner at Gwasg Y Fflam, Bala Tanysgrifiad: 7/6 y flwyddyn (Tri rhifyn).