Skip navigation

Y Fflam

 - 

Cyf. 1, rh. 4 Nadolig 1947

Nodiadau golygyddol : Y Celtiaid a'u cyfle /

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
NODIADAU GOLYGYDDOL
Y CELTIAID A'U CYFLE
Rhyfedd yw hanes y gair "Celt." Ymddengys mai dyna oedd y gair a
ddefnyddid gan y Grocgiaid a'r Rhufeiniaid i ddynodi'r pobloedd Ewropeaidd
a oedd yn byw i'r Gogledd iddynt. Tueddai Iwl Cesar, hwyrach, i feddwl mai
canolbarth Gâl oedd eu cartref canolog, a rhoddai i'r rhanbarth hwnnw yr enw
"Gallia Celtica." Nid oes enghraifît o neb yn defnyddio'r gair i olygu trigol-
ion yr Ynysoedd Prydeinig, yn yr hen fyd.
Gwreiddyn ieithegol sydd i'r gair "Celt" fel y'i defnyddir yn yr oes bres-
ennol. Defnyddid ef yn Ffrangeg, yn gyntaf, i gyfeirio at iaith a phobl Llyd-
aw, canys y gred oedd bod y Llydawiaid yn cynrychioli hen drigolion Gâl, Celt-
iaid Iwl Cesar. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, trefcdigaeth Frythonig yw Llyd-
aw, canlyniad ymfudo o Ynys Prydain. Yn nes ymlaen cymhwyswyd y gair
i ieithoedd gwreiddiol Cernyw, Cymru, Iwerddon, yr Alban ac Ynys Manaw, am
fod yr ieithoedd hynny'n perthyn i'r un teulu â'r Llydaweg. A daethpwyd yn
naturiol i ddefnyddio'r gair "Celtiaid" i ddisgrifio'r cenhedloedd sydd yn siarad
yr ieithoedd Celtaidd.
Datblygiad naturiol ond anffortunus, wedyn, oedd camarfer y gair. Aeth
pobl i dybio bod trigolion y gwledydd Celtaidd wedi disgyn o hil Geltaidd a
arglwyddiaethai yn Ewrob yn y cyfnod cynhanesyddol a bod i'r Celtiaid trwy'r
oesoedd nodweddion arbennig. Daeth yn gonfcsiwn anorfod dweud bod y
Celtiaid yn wyllt ac .yn hiraethus ac yn gyfriniol ac yn freuddwydiol. Dywedid
pethau melys amdanynt gan rai, a phethau go hallt gan eraill; ond casgliad
cyffredinol yr holl sôn am y Celtiaid oedd eu bod yn ogoneddus — neu'n druenus
­o wan ac aneff eithiol
Adweithiwyd yn gryf yn erbyn y gair yn y ganrif hon, ac yn erbyn yr holl
syniadau a ymgasglodd o'i gwmpas. Enghraifît o'r adwaith yma yw agwedd
Wade-Evans. Ac y mae tuedd yn awr i ddweud bod y gair "Celt" yn gwbl
ddiystyr a diwerth ac nad oes dim mwy peryglus na'r cyffredinoli dienaid am
nodweddion y Celtiaid. Hawdd gennyf gydymdeimlo hefyd; ond trychineb fydd-
ai gwthio'r adwaith i'r fath raddau fel y collid golwg ar y berthynas rhwng y
gwledydd Celtaidd a'u cyfle yn yr oes hon.
Er bod y cenhedloedd Celtaidd yn dra chymysg o ran hil, y mae iddynt
ieithoedd sydd yn perthyn i'r un teulu, ac y mae'r teulu hwnnw'n cynnwys hen
iaith Geltaidd Gâl. Nid amhriodol felly yw cymhwyso'r ansoddair "Celtaidd"
iddynt. Ac y mae iaith gyffredin yn golygu i raddau helaeth ddiwylliant cyff-
redin. Gwyddom am y gyfathrach rhwng Celtiaid Gâl a Phrydain ac Iwerddon
yn yr amseroedd cyntefig; gwyddom am y math arbennig o ddiwylliant Crist-
nogol a ddatblygodd ymhlith Celtiaid yr Ynysoedd Prydeinig mewn oes ddi-
weddarach. Y mae 11e i obeithio bod gan y cenhedloedd Celtaidd, pobloedd
mwyaf gorllewinol Ewrob, eu cyfle eto i chwarae rhan greadigol a gwaredigol
yn nrama hanes y byd.
Er mwyn paratoi'r ffordd i hyn rhaid adfer y gyfathrach rhyngddynt. Dyl-
em lawenhau yng ngwaith y Gyngres Geltaidd yn y maes diwylliannol. Ar yr
un pryd rhaid inni fynd ymhellach a chreu cyfathrach wl.eídyddol. A dyna
bwrpas yr Undeb Celtaidd a ffurfiwyd yn Nulyn eleni, a'r 'Aimsear Ceiltiac'
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.