Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyn Diarth Gan LL. WYN GRIFFITH DIWRNOD hyfryd, yr awel yn ffeind ar hyd y rhosydd, a'r haul yn disgyn yn araf ac yn taenu cwrlid melyn dros y bryniau. Yr haf yn tynnu at ei ddiwedd, y brys a'r miri yn marw'n dawel, y nos yn ymestyn, y tir yn troi i orffwys ar ôl llafur y cynhaeaf Creigiau Moel y Bryn yn codi 'n uwch-uwch fel tŵr castell yn y gwyllnos, a'r creithiau yn dyfnhau ar wyneb y graig, ôl bysedd yr haul ar ewin y rhew; holl gademid, ie, ac ystyfnigrwydd y wlad a'i phobl ynghlwm yn y garreg las-ddu, y prydferth a'r hagr ochr yn ochr, y gwendid a'r nerth. Dyna'r wlad a'r tymor. Darn o dir anghysbell, tir y defaid, y corsydd, am- bell dyddyn tywyll a swat yn britho'r cwm, Cwm Coch. Cwm tawel diarffordd, cwm swil yn cilio tan y mynydd. Tawel yn yr haf, ond yn y gaeaf, rhuthr y gwynt yn llenwi ei wacter, y glaw yn chwipio'r ffriddoedd a bwrlwm y nant orlawn yn codi fel gwal rhyngddo a'r byd. Dymaid o dai, heb na llan na chapel na thafam, siop fach mewn darn o dy, a dyna Gwm Coch. Mae saith milltir rhwng Cwm Coch a'r dref, saith milltir o oriwaered, o'r rhostir i'r dyffryn coediog, o'r hen ffordd garegog sydd fawr gwell na llwybr trol i'r lôn bost yn y gwaelodion. Saith milltir a chan mlynedd. Y lle nesaf i ben- draw'r-byd; dyna air pobl y dref am y cwm. Ac am ei drigolion, hanner gair a hanner .gwên. Noswaith dawel ym mis hydref, a slimin o fwg yn codi'n syth o bob simne yn y Cwm, fel cannwyll lwyd mewn can- hwyllbren plwm, cyn diflannu o'r golwg yn awel denau yr ucheldir. Drws ty'n agor; ac Elin Dafydd yn cerdded i fyny tua'r pistyll â phiser yn ei llaw. Dynes dros ei chanol oed, dal, a thenau, hir ei thrwyn, ei chlocsiau'n clincian yn erbyn y cerrig, hithau'n siglo o un ochr i'r IlaIl yn drwsgl a dihitio ar y ffordd anwastad. Dŵr y pistyll yn disgyn fel llafn pladur cyn troi'n arian byw ar y graean yn y ffos, ac Elin Dafydd yn gosod y piser odditano a gwrando ar sŵn y dŵr yn codi'n raddol o nodyn i nodyn. Drws arall yn agor a chau ar lais plentyn yn crio, a Meri Puw yn cerdded i lawr yn hamddenol at y pistyll ac yn troedio'n ofalus hyd ochr y ffordd. Gwraig ifanc writgoch a bodlon, llygaid byw ag- ored, a gwên yn chwarae mig rhwng y foch a'r wefus. "Be' sy' ar y plentyn 'na? Crio mae o hyd," meddai Elin. "Torri 'i ddannedd." "Ches i 'roed ddim trafferth efo'r plant. "Ydach chi wedi gorffen efo'r pis- tyll?" "Do, am wn i do, n'en' tad." Symudodd Elin ei phiser a'i osod ar ochr y ffordd i wneud lle i Meri Puw. "Naddo, ddim trafferth o gwbl efo'r un ohonyn nhw. Ar y bwyd mae'r bai "Be' ddeudsoch chi?" meddai Meri, a min ar ei llais yn torri trwy swn y pis- tyll. "Ia, a gormod o godl efo plant hedd- iw, gormod o lawer," meddai Elin. "Ches i ddim trafferth fy hun, ddim mymryn. "Naddo, 'dwy'n siwr." "Be?" Gŵyrodd Meri Puw i olchi ei phiser, heb ateb.