Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Richard Wilson (1714-1782) Gan L. HAYDN LEWIS YCHWANEGODD Amgueddfa Genedl- aethol Cymru, yn ystod y flwydd- yn hon, drysor arall pur werthfawr, port- read o Richard Wilson yr arlunydd Cym- reig byd-enwog. Arddangosir ef ar hyn o bryd fel darlun arbennig yn yr "Oriel Wilson." Cymysg iawn, hyd yma, yd- yw cynnwys yr'oriel hon, ond y mae'r enw ynddo ei hun yn hynod arwyddocaol, ac eisoes y mae rhai o bethau gorau Wil- son ynddi. Y mae diddordeb Cymru yn ei horielau cyhoeddus yn araf ddyfnhau, a thybiwn nad yw'r dyfodol yn ddi-obaith o bell ffordd. Y mae'r portread hwn o Wilson hefyd yn un cwbl ddiddorol, ei liwiau yn ffres odiaeth a'r argraff, ni dyb- iwn, yn un byw a nodweddiadol; yr un pryd byddai'n well peidio â dweud mai ef yw yr unig bortread dilys a feddwn o'r arlunydd. Y mae ar gael 0 leiaf dri phortread arall, a dau ohonynt os nad y tri o waith yr arlunydd ei hun, a'i eiddo yn "Oriel Ddiploma" yr Academi Fren- hinol yn gryn gampwaith. Paentiwyd y portread hwn sydd yn yr Amgueddfa gan yr Eidalwr Rafael Mengs, yn gyfnewid am ddarlun o waith Wüson, tua 1752. Y mae stori fawr na thraethwyd ond ychydig ohoni hyd yn hyn yn glymedig o hyd wrth enw enwog Wilson. Ganed ef, fel y gwyddys, Awst 1, 1714, ym Mhenegoes, Machynlleth, a chladdwyd et Mai 15, 1782, yn hen fynwent yr Wydd- grug, ond rhwng y ddau bwynt eithaf yma pa faint sydd heb ei ddatguddio eto nid oes ond y sawl a edmyga Wilson a'i waith a wyr. Hyd yn hyn gellir yn deg gyfrif ei fywyd yn un 0 lu 'bywgraffiadau coll' y byd. Y mae Llyfr Nodiadau neu Ddyddiadur byr o'i eiddo ef ei hun ar gael, dau gofiant byr ansicr iawn o waith Wright a Hastings (1824 a 1825) a rhyw ychydig amlinelliadau diweddar ond ang- hyflawn iawn. Mewn rhyw ystyr, felly, y mae'r sefyllfa yn un hynod druenus, eto, nid yw'n ddiobaith. Dichon fod posibilrwydd bywgraffiad teg o fewn ein cyrraedd. Cymwynas enfawr a fyddai gwaith o'r fath gan Gymro. Gymaint o gam a wnaed ag enw, gwaith a bywyd Wilson erioed! Tybed na allai Cymro, am unwaith, ladd yr enllib a'r anwiredd a dangos i Gymru ei hun ddarlun byw a godidog o un o'i phennaf gwyr celf, ac yn ddi-os un o arhmwyr mawr y byd. Y mae tlodi a thrallodion Wilson yn wybyddus iawn i'r cyfarwydd. Gwnaed ef yn wir yn un o'r 'Aelodau Cyntaf' o'r Academi Frenhinol flwyddyn ei sefydliad, 1768; flynyddoedd yn ddiweddarach, o ryw ffug-dosturi efallai, gwnaed ef yn Llyfrgellydd iddi hefyd, ond yn yr oes or-gymdeithasus a 'Georgaidd' honno nid oedd llawer o Ie i'w athrylith neilltuol ef; aeth yn ferthyr i'w gelfyddyd ond nid er- ioed yn ferthyr trist; bu'n anhygoel dlawd, fel y tybir, er fe ddichon iddo gael rhyw ychydig bach o gysur trwy gymynrodd neu weddill eiddo teuluol tu- a'r diwedd eithaf. Dioddefodd lawer o enllib ac athrod, ac anwybyddwyd ei ath- rylith. Aed mor bell â'i gyhuddo fel 'di- otwr' pennaf ei oes, er bod yn aros i ni rai degau o gampweithiau disglair iawn mewn tirluniau a phortreadau. Y mae cryn dipyn o wir yn ddiau yn sylw ei ed- mygydd diweddarach, John Constable, amdano: "Poor Wilson. Think of his fate; think of his magnifícence! Yr un pryd cofiant cywir yn unig a all lanẃ'r