Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gyda'r Grwp yn y Swisdir Gan DONALD GIBBY TEIMLAF fel rhywun y gofynnwyd iddo ddisgrifio'r olygfa ar Fynydd y Gweddnewidiad neu dorf Elias yn penlinio ac yn gweddio, "Yr Arglwydd sydd Dduw, canys gwelais freuddwyd Saer yn dod yn wir; gwelais weledigaeth gŵr ieu- anc yn dod yn realiti byw. Yn ddiweddar cyfarfûm â'r bobl fwyaf rhydd a hapus yn y byd. Mewn byd o anobaith, beiddiant obeithio. Mewn byd a fygythir gan hunanladdiad cyffredinol, siaradant am fywyd newydd. Mewn byd lle yr achwynir gan laweroedd am fethiant a siomedigaeth, y mae eu bywydau yn ddisglair ac yn fuddugol- iaethus. Siaradent ddeg iaith ar hugaih; deu- ent o bob rhan o fywyd mewn cynifer o wledydd; perthynent i bob dosbarth o gymdeithas, eithr yr oedd hyn yn gyff- redin ganddynt — pobl Dduw oeddynt. Ym mharadwys yn unig y ceir pobl Dduw-ac yno y cefais i hwynt! Yn ddiau fe synnwch glywed bod paradwys tair mil o droedfeddi uwchben Llyn Gen- efa yn y Swisdir. Beth bynnag, dyna'r lIe y cefais i bobl Dduw! I fyny ymhell uwchben y Llyn disgleiriol ac yn sŵn canu hyfryd clychau'r anifeiliaid yn y mynydd- oedd a chanu clychau'r eglwysi yn y dyff- rynoedd, cadwent beth a alwent, yn wyl- aidd iawn, eu "Cynhadledd Haf." Fel yr oedd y bobl hyn yn wahanol, yr oedd eu cynhadledd hefyd yn wahanol. Yr oedd yn gynhadledd nid yn unig heb un diffyg cytundeb a heb un 'veto,' ond yr oedd hefyd yn gynhadledd ag iddi ateb i'r problemau dyrys sydd yn wynebu ein byd dryslyd a gofidus ni. Yr oedd yn gyn- hadledd lwyddiannusl Ond dyna, Duw oedd ei chadeirydd. Ar bob ochr ceir lleisiau yn llefain bod ein byd yn sefyll ar y groesffordd, lleisiau sy'n dweud ein bod yn byw trwy gyfnod cwymp gwareiddiad, yn byw rhwng dau fyd ac ar derfyn oes yn hanes dyn. Ar bob llaw daw datganiadau a dehongliadau dadansoddol a gwybodus o'n hanawster- au a'n dilemau, nes mewn llid ein gyrru i brotestio yn erbyn y rhai hynny na flinant sôn am arwyddion ac argoelion ein clefyd- au, eithr heb gynnig meddyginiaeth. Yn "Nhŷ'r Mynydd" yn Caux, Meca Grwp Rhydychen, cyfarfûm â phobl â chan- ddynt ateb,-ateb nid yn unig i fywyd yr unigolyn ond ateb i'r holl fyd. Yr oedd yn ateb mor syml! Mor hen! Ateb a oedd wedi ei hir anghofio, sef fod gan Dduw gynllun i'r holl fyd, ac o ganlyniad pwrpas a diben a diwedd bywyd pob dyn yw gwneud ewyllys Duw. Dyna i gyd! Dyna'r cwbl! Dyna ddigon! Yn y gorff- ennol fe'u gwasanaethodd dynion eu hun- ain, y wladwriaeth, y genedl, yr ymher- odraeth-unrhywbeth a phopeth, unrhyw- un a phobun, — yn awr gwasanaether Duw! I "Dŷ'r Mynydd" daeth gweision yr Arglwydd. Y mae heddwch yn y byd yn gwbl amhosibl heb heddwch yng nghalonnau dynion; amhosibl yw byd newydd heb ddynion newydd. Y mae'r byd fel y mae heddiw yn unig oherwydd ein bod ni fel yr ydym. Nyni a wnaeth y byd yr hyn ydyw-a phroffeswn nad yw wrth fodd ein calon! Hiraethwn a gweddiwn am weld y byd yn newid, ond ni newidia'r byd, ni all newid oddieithr i ni ein newid ein hun- ain, pob un ohonom, o'r llafurwr i'r llyw- odraethwr, o'r glowr i'r brenin. A nin-