Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nau a'n bywydau mor anonest, mor am- hur, mor hunanol ac mor gas, rhagrith- iwn wrth ryfeddu bod yn y byd ryfeloedd a sôn am ryfeloedd, argyfyngau a thryb- lith. Paratoir cynlluniau rhyfeddol ar gyfer y dyfodol, ond fe'u diddymir i gyd yn llwyr, megis ar achlysuron aneirif yn y gorffennol, oni newidia dynion eu medd- yliau a'u calonnau. Ni weithredodd y byd erioed ein ffordd ni; na wna fyth; fe weithreda mewn un ffordd yn unig, y ffordd iawn, ffordd Duw. Yn syml iawn, yn fyr iawn, dyma neges Grwp Rhydychen o Caux i'r holl fyd: yn ein bywydau personol, yn ein hymddangosiad cymdeithasol, yn ein polisi cenedlaethol ac yn ein perthynas ryngwladol. Rhaid cael cyfnewidiad mawr o ffordd dyn i ffordd Duw,-a ffordd gwbl onest, gwbl bur, gwbl anhun- anol a chwbl gariadlawn yw ffordd Duw. Rhwng y ddwy ystafell-y 'Fflam' Rhwng y ddwy ystafell-y 'Fflam Wen'! Hon sydd oleuach ei llun na doe, Ac i'w ddwylo ef daw y 'Ffagl Wen'! Rhwng y ddwy y mae dameg y 'Tân, Y 'fflam' sy'n diffodd i gynnau byth, Canys arall yfory a ddaw o hyd Heb orliwio, gallwn ddweud bod popeth yn Caux, ar y ddaear, megis y mae yn y nef! Y mae'r wlad oddi amgylch yn annisgrifiadwy, megis rhyw ardd ryfedd- ol yn debycach i wlad gyfareddol y Tyl- wyth Teg yn y nos. Yn union fel y mae'n rhaid gweld golygfeydd y Swisdir i'w credu, felly hefyd rhaid yw teimlo yr hyn a ddigwydd yng Nghynhadledd Grwp Rhydychen yn Caux i'w ddeall ac i'w werthfawrogi. Y mae'r bobl yno yn her grymus i'r byd. Ni ellir eu hanwybyddu. Trwyddynt, ac ynddynt, genir Cristnog- aeth eto. Ond nid Cristnogaeth yr Apos- tol Pawl yw, na Ghristnogaeth Ignatius Loyola na John Wesley chwaith, eithr Cristnogaeth yr ugeinfed ganrif yw yr eiddynt hwy— Cristnogaeth y flwyddyn 1947; ie, dehongliad newydd o wirionedd- au tragwyddol, cyfieithiad newydd a chyf- lwyniad newydd o neges y Saer. Eiddynt yw Cristnogaeth y dyfodol. YMSON YR ARWYDDLUN Hon sydd ddwys am mai ddoe y bu; Darfu'r rhyfelwr a phrudd yw ei wedd O'i ddwylo hen daw y 'Fflam'! Canys heddiw a'i lewych sydd fwy A'r 'fflam' a dry yn 'Dragwyddol Dân'! L. HAYDN LEWIS.