Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Preimin Gan JOHN RODERICK REES PAN oeddwn i yn ymgodymu â'r cwysi ceimion cyhtaf, llenwid fy nychym- yg â stoñau hen arddwyr j.y mro am wr- hydri y preiminau gynt. Pa sawl gwaith y clywais yr hen gymariaethau ystrydebol hynny,-agor fel saeth, cwyso fel 'men- yn, gweithio fel pendil! Pwrpas pob stori (neu, yn hytrach, efallai, alegori,) oedd argraffu arnaf i yn nyddiau bwrw prentisiaeth bosibiliadau y gelfyddyd gain y gorfydd arnaf ymgymryd â hi. Eithr hyd yma, ni welswn i breimin. A phan ddaeth sôn fod Clwb Ffermwyr Ifainc an- turus yr ardal wedi trefnu ymrysonfa aredig ar gae y Garnedd Wen ganol mis bach, cyneuwyd o'r newydd fy niddordeb yn rhamant y troi. Daeth y dydd. Gydol y noson cynt disgynasai gwlithlaw tyner, fel y tystiai gwyr o brofiad y cwysai hen Gae Delyn y Garnedd,­iwel, "fel 'menyn!" Er dir- fawr siom i mi, methais fod ar faes yr ornest am hanner awr wedi wyth y bore hwnnw-awr brydlon "yr agor." Y mae agor cywir yn amod anhepgor llwyddiant mewn ymdrechfa aredig o radd uchel. Wrth ddynesu at y cae preimin, gwel- wn res ar res o foduron, a thraw, y tu hwnt, gerti bychain twt a ddug erydr i'r maes o gyrrau pell wrth gwt modur a thyniedydd. Gnvn undonog tractor a lenwai fy nwyglust ym mwlch y cae. Wele wyth ohonynt, yn cyniwair yn ddi- flin, ddidor o bentir i bentir, a'u coch a'u gwyrdd tanbaid yn denu llygaid edmygus twr o laslanciau ar y dalar lydan. A chyda llaw, onid yw'r talarau, hwythau, dan bwysau'r olwynion daneddog, fel pes sangesid gan wartheg ar dywydd gwlyb? Cochi cyson a'r lIeiniau gwyrddlas rhwng yr wythgrwn yn cael eu difa, difa; saib fer pan ddôi carreg ddala i atal rhawd y deirswch loyw, — am ennyd, a chychwyn eilwaith heb na chwys na blinder. Felly, gydol dydd, y cochad'r tractorion eu llein- iau. "Troi dienaid," meddai'r gwyr ceífylau. Teimlwn innau nad oedd yma gynildeb gorffenedig y wedd a'r gwydd main. Eithr cofiwn hefyd am lawer gwanwyn gwlyb, diweddar, a'r gwaith o drin yr âr ymhell ar ôl, pan ddaeth yr "anferthwch swrth" hwn i'm hardir innau, ac aredig mewn un diwrnod hin- dda, prin, gynifer o erwau ag y medrwn i â'm gwedd, ar ein gorau, eu cochi mewn wythnos. Dwy wedd geffylau oedd yno,—dim ond dwy; un pâr o geffylau trwm lliwgar, rhubanog, un arall ysgafn, coeslan heb "facsau" i gasglu pridd. Wrth syllu ar- nynt ni allwn lai na chofio, penillion Masefield,-y wedd fel y "stately Spanish galleon," ac ymhen arall y cae deg erw y tractor, er mor danbaid ei baent, fel y "dirty British coaster" ei hun! Am- herthnasol? Gormodiaith? Na, ffansi prydydd ar gae preimin! Gyda'r ceffylau yr oedd mwyafrif y dyrfa. Dyma hwy'r hen ddwylo brwd a wybu gynifer o brei- minau, yn gwylio'r ddau lain wyth llath hwn yn araf gochi yn sgîl yr erydr un- cwys. Y fath grefft! Pob cwys yn gorffwys yn esmwyth ar ei chymhares, a'r cribau cyson fel pyramidiau; cwysi mân, saith modfedd wrth chwech, wrth fodd calon balchwyr crefft yr aradr. "Troi campus at lafur," meddent, a sylwais ar gwysi profiad ar draws eu haeliau hwy. Yr oedd bywyd yn llond y Úe, —