Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Colli'r Bws Gan STANLEY G. LEWIS SAIF ein ty ni ar lawr dyffryn cul, ryw chwarter milltir o'r ffordd fawr. Os am ddal bws i'r dref rhaid dringo llech- wedd serth, eithinog, nes dyfod at Chwar- el y Capel lIe y peidiodd "sŵn y c3тτı a'r morthwyl mwy," ac yna groesi gweir- glodd laith Mari Sam a neidio dros y gam- fa i'r ffordd. Cychwynnais droeon o'r ty, mewn hen ddigon o bryd, ar y siwrnai fer, ddi- ddorol hon, i gwrdd â bws Danny. Gwae fi, bachgen ar ôl oeddwn hanner yr amser. Hen lanc oedd Danny, ond hen lanc pur nobl wedi'r cwbl. Dreifio bws oedd yr unig uchelgais a fu ganddo erioed. Ei rinwedd bennaf oedd prydlondeb. 'D oedd wahaniaeth i ba le bynnag yr elai, i angladd neu i briodas, boed Sul neu 'ŵyl, byddai'n ddieithriad yn brydlon. Oher- wydd hyn, treuliais oriau'n ehwYs mawr ar fin y ffordd yn disgwyl y bws nesaf. Maddeued Duw imi am felltithio rhinwedd fawr Danny y troeon hynny. Wedi ymdawelu chwalwn feddyliau di-rifedi wrth droed y gamfa. Gwelwn ryw wendid personol ynof fy hun. Pa- ham yr oedd yn rhaid i mi, yn anad neb arall, golli'r bws mor aml? Addefais i'r gog ac i'r wennol, i'r wenynen brysur ac i'r pedwar gwynt, 011 yn eu tro, mai un o'm prif golledion yw amhrydlondeb. Yna, â'r anadl nesaf, ceisiwn fy esgusodi fy hun. Mor anfodlpn yw dyn i gyd- nabod ei wendidau. Yn wir, dyna ein gwendid pennaf fel dynoliaeth. Sefais innau droeon wrth y gamfa gan geisio dilladu fy ngwendid yng ngwisgoedd crand rhinwedd. Nid diffyg o unrhyw fath oedd bod ar ôl, eithr un o'm llu rhin- weddau yn dyfod i'r amlwg. Ni fyddwn wedi colli bws Danny unwaith onibai am y rhinweddau hyn. Fe'm hysgusodwn fy hun drwy faentumio i'r Duw mawr fy mendithio â llygaid i weled a chlustiau i glywed. Defnyddio fy ngalluoedd a wnawn wrth ddringo'r llechwedd. Yno, ymbriodwn â natur. Gwelwn y berth yn llosgi, a heb ei difa. Siantiai côr y wig anthemau mawl y nefoedd, a charolai'r awelon yn y perthi. Ie, Duw a roddodd imi'r dalent i weld ac i glywed ei weith- redoedd ,ac wrth ddringo'r glog datblyg- wn y dalent hon. Gwir imi, fel Eifion Wyn, wybod "betíi yw cael fy nal yn nrysni'r blodau," ond weithiau byddwn yn ddigon onest i gydnabod nad hwy a'm rhwystrodd i gyr- raedd y gamfa mewn pryd i ddal y bws bob tro. Digon prin fyddai'r pylau hyn o onestrwydd, a thebyg yw y bydd yn edifar gennyf yn y man, imi gydnabod y ffaith hon o gwbl. Y mae'n dda o beth fod ambell awr wan fel yma yn dyfod i ran dynion pan gydnabyddant y gwir. Dyma oriau mawr y byd. Profais funud- au felly fwy nag unwaith ar fin y ffordd. Dyna'r waith honno pan addefais nad "crefydd y gwydd a'r gog" a'm gwnaeth yn rhy ddiweddar i ddal y bws a minnau'n wynebu am y clinic yn y dre' i gael fy nannedd wedi eu llenwi. Ar adegau eraill taflwn y bai am fy niffyg ar yr hen Fari Sam dafotrydd, a gofyn, pa felltith a oedd arnaf fod yn rhaid imi basio ei thy ar fy ffordd at y bws? Ni allaf i, druan, godi bys at neb am feio arall. Ofnaf mai dyma un o'r pechodau gwreiddiol sydd ynom fel dyn- oliaeth-rhaid taflu'r bai am bob aflwydd ar arall. Pan ddeuai'r munudau prin