sedd Brotestanaidd i'r ffaith mai gorsedd
Gymreig oedd hi yn eu golwg hwy, ac i'r
ffaith arall iddynt ddilyn eu harweinwyr fel
defaid yn y cyfnod hwnnw — a'r arweinwyr
hynny yn eu tro yn meddwl byth a hefyd am
eu lles bydol eu hunain, faint b/nnag o gyd-
ymdeimlad cudd a oedd ganddynt â'r hen
grefydd.
Mater o farn bersonol efallai yw'r pethau
hyn a'u tebyg, a rhydd i bawb ei farn ei hun.
Eithr nid mater o farn o gwbl ond o gywirdeb
ffeithiau yw'r gwallau sy'n rhy niferus drwy
gydol y llyfr: 'whe,' yn lle 'who', 36); 'were'
('was,' 38); 'Mawddach' (Mawddwy,' 39);
'Clenneney' ('Clennenau,' 57, 68n, 94, 108,
120); 'Bridgenorth' (Bridgnorth,' 63); 'Thel-
well' ('Thelwall,' 86); 'Appendix E' (Ap-
pendix D,' 86n); 'fly' (flee,' 123); 'Stack-
pool' ('Stackpole,' 170); 'Llewelyn ap Ior-
werth' ('Llewelyn ab Iorwerth,' 24; a 'notor-
ous' yn ddiau am 'famous,' t. 23. A phaham
y sonnir mor fynych B ^sdiusja^ojmn-pjoi, yw'r
'lord marchers'? Onid gwell a chywirach yw'r
hen arfer o ddefnyddio 'marcher lords' (neu
STORIAU.
CHWEDLAU'R MEINI, gan Meuryn. Gwasg Gee, 1946. Tt. 3-11. Pris 3/6.
Pan na wêl awdur yn dda roddi rhagym-
adrodd i lyfr ni ellir ei feirniadu ond o saf-
bwynt y cynnwys ei hunan neu wrth ei gym-
haru â gweithiau tebyg. Yr unig awgrym o
fwriad yr awdur ydyw is-deitl y llyfr, sef
"Gwib i Fro'r Cysgodion." Y mae'r fraw-
ddeg hon yn codi gobeithion dyn. Fe ddis-
gwyl ymgais i geulo'i waed Cymreig neu i
ferwino'i gnawd. Darllenais y chwedlau y
tro cyntaf mewn ysbryd o fawr ddisgwyl. Cof
gennyf ddarllen lawer blwyddyn yn ôl chwedl-
au rhamantus a chynhyrfus Marie Trevelyan-
"From Snowdon to the Sea." Nid teg fai
cofio am ystorïau brawychus Edgar Allan Poe
neu hanes yr erchylltod hwnnw a eilw Mau-
passant yn "Le Horla." Eto ni allwn lai na
chadw mewn cof ddisgleirdeb "Ghost Stories
of an Antiquary" gan y Dr. M. R. James neu
chwedl yr Athro A. L. Rowse am ystrywiau
dychrynllyd rhyw*hen Faen Hir yng ngwlad
Cernyw. Y maent yn enghreifftiau gwych o'r
ias-çhwedl (os caniateir y gair hwn am "thril-
'lords marcher') a 'marcher lordships'?
Gwell hefyd fuasai dywedyd i siroedd Caer-
fyrddin ac Aberteifi gael eu had-drefnu yn
hytrach na'u trefnu yn 1284 (t. 29n), a'r Dr.
T. Gwynn Jones, nid yr Athro Gwyn Jones,
a ddyfynnir ar d. 44. Doniol hefyd yw dar-
llen am ryw Red Castle yn y Gogledd, ar dd.
107 a 115. Onid castell Rhuthun oedd hwn?
Dyna a awgrymir ar d. 116, a'r hen enw Cym-
raeg arno oedd Y Castell Coch yng Ngwern-
for-y wern yn ymestyn o Gaerfallen i Ffyn-
nogion; ceir Wern Fechan (o'i chyferbynu â
Gwern Fawr) hyd heddiw yn enw ar un ran
o'r dref.
Brychau bychain yw'r rhain y gellir eu
cywiro yn yr ail argraffiad. Gobeithio y bydd
galw mawr am y gyfrol hon, ac y caiff yr Han-
esydd a gollwyd yn y Prifathro yn ystod y
blynyddoedd diwethaf hyn atgyfodiad gwell
cyn bo hir a chyfle i gyflawni bwriad dyddiau
Bangor gynt.
Caerdydd.
(Rhuthun gynt).
A. H. WILLIAMS.
ler") hynafiaethol. Cydiais yn y llyfr. Trö-
wyd wic y lamp i lawr, melltithiwyd y dyllu-
anod a hwtiai'n ddibaid yng nghoed y dyffryn
ac ymbaratoais ar gyfer y goriwaered i Fro'r
Cysgodion. Ond ofer fu'r cwbl. Ni ddaeth
yr iasau i gerdded hyd fy nghorff a chysgais yn
dawel a di-hunllef. Cystal dweud ar un-
waith nad rhaid i rieni bryderu am gadw'r
llyfr o gyrraedd eu plant. Y gwir yw nad
ias-chwedlau fel y cyfryw mohonynt ond ys-
tori'au byrion â chyfrodwaith amrywiol o
ddéfnydd 1ledrithiog yn gydwe ynddynt. O
sylweddoli hyn cefais, o'u hail-ddarllen, gryn
flas ar y portreadau o gynfyd pell lIe y gwelir
y meini fel meistri a gweision y ddynoliaeth.
Syniad amheuthun oedd i'r awdur bori ym
meysydd ein hanes boreol am ysbrydoliaeth i
greu'r math arbennig hwn o lenyddiaeth.
Cynnwys y llyfr saith o chwedlau. Ym mhob
un ohonynt un ai fe wneir y maen yn ganol-
bwynt neu ynteu defnyddir y maen fel achlys-
ur i adrodd stori am helyntion ein cyn-dadau,
This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.
The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.