Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

sedd Brotestanaidd i'r ffaith mai gorsedd Gymreig oedd hi yn eu golwg hwy, ac i'r ffaith arall iddynt ddilyn eu harweinwyr fel defaid yn y cyfnod hwnnw — a'r arweinwyr hynny yn eu tro yn meddwl byth a hefyd am eu lles bydol eu hunain, faint b/nnag o gyd- ymdeimlad cudd a oedd ganddynt â'r hen grefydd. Mater o farn bersonol efallai yw'r pethau hyn a'u tebyg, a rhydd i bawb ei farn ei hun. Eithr nid mater o farn o gwbl ond o gywirdeb ffeithiau yw'r gwallau sy'n rhy niferus drwy gydol y llyfr: 'whe,' yn lle 'who', 36); 'were' ('was,' 38); 'Mawddach' (Mawddwy,' 39); 'Clenneney' ('Clennenau,' 57, 68n, 94, 108, 120); 'Bridgenorth' (Bridgnorth,' 63); 'Thel- well' ('Thelwall,' 86); 'Appendix E' (Ap- pendix D,' 86n); 'fly' (flee,' 123); 'Stack- pool' ('Stackpole,' 170); 'Llewelyn ap Ior- werth' ('Llewelyn ab Iorwerth,' 24; a 'notor- ous' yn ddiau am 'famous,' t. 23. A phaham y sonnir mor fynych B ^sdiusja^ojmn-pjoi, yw'r 'lord marchers'? Onid gwell a chywirach yw'r hen arfer o ddefnyddio 'marcher lords' (neu STORIAU. CHWEDLAU'R MEINI, gan Meuryn. Gwasg Gee, 1946. Tt. 3-11. Pris 3/6. Pan na wêl awdur yn dda roddi rhagym- adrodd i lyfr ni ellir ei feirniadu ond o saf- bwynt y cynnwys ei hunan neu wrth ei gym- haru â gweithiau tebyg. Yr unig awgrym o fwriad yr awdur ydyw is-deitl y llyfr, sef "Gwib i Fro'r Cysgodion." Y mae'r fraw- ddeg hon yn codi gobeithion dyn. Fe ddis- gwyl ymgais i geulo'i waed Cymreig neu i ferwino'i gnawd. Darllenais y chwedlau y tro cyntaf mewn ysbryd o fawr ddisgwyl. Cof gennyf ddarllen lawer blwyddyn yn ôl chwedl- au rhamantus a chynhyrfus Marie Trevelyan- "From Snowdon to the Sea." Nid teg fai cofio am ystorïau brawychus Edgar Allan Poe neu hanes yr erchylltod hwnnw a eilw Mau- passant yn "Le Horla." Eto ni allwn lai na chadw mewn cof ddisgleirdeb "Ghost Stories of an Antiquary" gan y Dr. M. R. James neu chwedl yr Athro A. L. Rowse am ystrywiau dychrynllyd rhyw*hen Faen Hir yng ngwlad Cernyw. Y maent yn enghreifftiau gwych o'r ias-çhwedl (os caniateir y gair hwn am "thril- 'lords marcher') a 'marcher lordships'? Gwell hefyd fuasai dywedyd i siroedd Caer- fyrddin ac Aberteifi gael eu had-drefnu yn hytrach na'u trefnu yn 1284 (t. 29n), a'r Dr. T. Gwynn Jones, nid yr Athro Gwyn Jones, a ddyfynnir ar d. 44. Doniol hefyd yw dar- llen am ryw Red Castle yn y Gogledd, ar dd. 107 a 115. Onid castell Rhuthun oedd hwn? Dyna a awgrymir ar d. 116, a'r hen enw Cym- raeg arno oedd Y Castell Coch yng Ngwern- for-y wern yn ymestyn o Gaerfallen i Ffyn- nogion; ceir Wern Fechan (o'i chyferbynu â Gwern Fawr) hyd heddiw yn enw ar un ran o'r dref. Brychau bychain yw'r rhain y gellir eu cywiro yn yr ail argraffiad. Gobeithio y bydd galw mawr am y gyfrol hon, ac y caiff yr Han- esydd a gollwyd yn y Prifathro yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn atgyfodiad gwell cyn bo hir a chyfle i gyflawni bwriad dyddiau Bangor gynt. Caerdydd. (Rhuthun gynt). A. H. WILLIAMS. ler") hynafiaethol. Cydiais yn y llyfr. Trö- wyd wic y lamp i lawr, melltithiwyd y dyllu- anod a hwtiai'n ddibaid yng nghoed y dyffryn ac ymbaratoais ar gyfer y goriwaered i Fro'r Cysgodion. Ond ofer fu'r cwbl. Ni ddaeth yr iasau i gerdded hyd fy nghorff a chysgais yn dawel a di-hunllef. Cystal dweud ar un- waith nad rhaid i rieni bryderu am gadw'r llyfr o gyrraedd eu plant. Y gwir yw nad ias-chwedlau fel y cyfryw mohonynt ond ys- tori'au byrion â chyfrodwaith amrywiol o ddéfnydd 1ledrithiog yn gydwe ynddynt. O sylweddoli hyn cefais, o'u hail-ddarllen, gryn flas ar y portreadau o gynfyd pell lIe y gwelir y meini fel meistri a gweision y ddynoliaeth. Syniad amheuthun oedd i'r awdur bori ym meysydd ein hanes boreol am ysbrydoliaeth i greu'r math arbennig hwn o lenyddiaeth. Cynnwys y llyfr saith o chwedlau. Ym mhob un ohonynt un ai fe wneir y maen yn ganol- bwynt neu ynteu defnyddir y maen fel achlys- ur i adrodd stori am helyntion ein cyn-dadau,