Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gellir rhannu'r llyfr yn rhwydd yn ddwy ran ar sail y gwahaniaeth hwn. Yn y rhan gyntaf dewisodd yr awdur bwnc, yn wir, yr unig bwnc a allasai fywiocau chwedlau am hen feini. Doniodd hwy â rhyw ryfedd allu ad- wythig i greu trychineb. Llwyddodd yr awdur yn arbennig yn y chwedlau hynny lle y y gwnaeth y maen fel petai'n brif gymeriad. Atyniad chwedl 'Y Garreg Saethau' ydyw'r awyrgylch alun-mabonaidd yn toddi yn ddi- arwybod i wyllni'r cynfyd. Ond yn wyneb diwedd y chwedl a ellir dweud yn deg fod yr hyn a welwyd ar brynhawngwaith o haf ar- bennig yn "llythrennol wir" ? Yn 'Y Garreg Forthwyl' tybiaf i'r awdur gyrraedd uchaf- bwynt ei grefît fel chwedleuwr. Er hynny gwelir yma rai o ddiffygion ei dechneg. Tu- edda i groniclo ffeithiau moelion gan anwyb- yddu grym di-hysbydd awgrym-defnyddio morthwyl lle mae'r amgylchiad yn gofyn am gnith pluen. Ar y cyfan gresynaf na ddan- fonwyd y garreg felltigedig i'r Amgueddfa Gen- edlaethol. Y fath hafog a grëid ymysg y staff dyfal ym Mharc Cathay! Ceir yr un gallu rhyfedd yn chwedl 'Y Gromlech.' Gwnaed defnydd yma o'r chwedloniaeth helaeth a dyf- odd o gylch yr hen feddrodau. Y mae hon yn stori daclus a chryn elfen arswyd yn perthyn iddi. Sylwaf ei fod yn dodi un o'r meirw yn ei gwrcwd yn y Gromlech, ond credaf mai cam-amseriad yw hyn. Gwnaed hynny'n lled gyffredirîol yn oes Pobl y Diodlestri (Beaker Folk). Arferent hwy gladdu eu meirw yn eu cwrcwd mewn cistiau o gerrig. Braidd yn rhy gyfleus hefyd oedd i'r "ddau weithiwr" ymddangos yn sydyn mewn 11e mor ddiar- Dymunaf dderbyn Y FFLAM yn rheolaidd drwy'r post, ac amgaeaf fy nhanysgrifiad-o 7/6ch. (cludiad yn rhad) am y tri rhifyn a gyhoeddir yn 1948. Enw Cyfeiriad Anfoner y ffurflen hon neu nodyn i'r un perwyl i: Gwasg Y Fflam, Bala, Meirion ffordd â hynny ar foment mor dyngedfennol. Dylid hysbysu presenoldeb y pethau cyfleus ymlaen llaw. Y mae'r tair chwedl cyntaf yn foddhaol. Ni ellir dweud hyn am y pedair olaf. Yn yr ail ran y mae'r meini wedi llonyddu. Ymddygant yn hollol normal. Nid ydynt mwyach yn ganolbwyntiau eithr yn achlysur i agor trafodaeth. Un o wendidau mwyaf y llyfr hwn ydyw unffurfiaeth ac undonedd yr adran hon. Yn y bumed chwedl, 'Y Maen Hir,' daw'r wybodaeth am ddigwyddiadau cyfriniol y cynfyd drwy glaer-weledigaeth. Yn y lleill daw trwy gyfrwng dau werinwr syml ond rhyfeddol o hollwybodus. Na'm camddealler. Ni warafunaf i werinwr syml wybod mwy nag ysgolor proffesedig nac ychwaith i glaer-wel- edydd arbed amser gwerthfawr hanesydd trwy gasglu gwybodaeth am y gorffennol mewn modd mor ddi-boen a di-drafferth. Ond credaf fod yr awdur, wrth fabwysiadu ei or- aclau anffaeledig, wedi gwneud cam dybryd ag ef ei hun. Try'r gorchwyl o geisio cyf- iawnhau dilysrwydd ei ffynonellau yn llyffeth- air ar ei ddawn fel ystorïwr. Gallasai yn hawdd eu hepgor, yn enwedig -Tomps Gruff- ydd. Yr oedd yn rhy gydwybodol i osgoi'r cwestwn, 'Pa fodd y cawsoch y fath fanylion am bobl na ddysgasant ysgrifennu eu hanes nac mewn maen nac mewn memrwn?' Wrth ei hwynebu aeth y broblem yn drech nag ef. Fel chwedleuwr yr oedd ganddo hawl. i'w han- wybyddu'n llwyr. Er gwaethaf yr "Hen Or- acl" yn 'Y Maen Chwyf' y mae gwreiddioldeb a flresni i'w canfod yn y chwedl. Y mae gwirionedd yn ei bortread o dwyll ysgeler ym- Y FFLAM