Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODIADAU GOLYGYDDOL GWLADGARWYR AR FFO Y mae gweithred y Llywodraeth Ymerodrol yn gyrru Llydawyr o Gymru yn dwyn ar gof i'n cenedl, pe bai angen gwneud hynny, yr eiddilwch sydd yn parlysu ein bywyd gwleidyddol, Cafodd rhai o'r ffoaduriaid hyn groeso a chynhorthwy yng Nghymru. Yn wir, bu rhai Cymry adnabyddus yn hael o garedig tuag atynt. Teimlent yn ddiau mai hyn oedd eu rhesymol wasanaeth, a Llydaw yn y fath adfyd. Llwyddodd rhai o'r ffoaduriaid i lunio rhyw wedd ar foddion cynhaliaeth iddynt eu hunain yng Nghymru. Yna, yn sydyn dyma'r Llywodraeth yn gorchymyn, iddynt ymadael fel "personau annymunol." Ac ni nodwyd y rheswm. Pe bai gan Gymru awdurdod i noddi ei chyfeillion dioddefus, megis y mae gan Iwerddon-ac megis y gwna Iwerddon, er clod iddi-ni fyddai angen creu helynt ynglŷn â mater fel hwn. Ond nid oes gan Gymru awdurdod. Felly, y mae'n rhaid creu helynt, ac ymbil a chrefu, a gweiddi a phrotestio. Fel hyn yr ydym ni yng Nghymru yn byw. A hyd nes y chwaneger at urddas a hunan-barch ein sefyllfa, fel yna v byddwn ni'n byw. Un enghraifft o blith llawer yw creulondeb yr erlid ar y Llydawyr. Ychydig a wn i am Lydaw. Ond mae'n digwydd fy mod yn adnabod un o'r rhai a erlidir yn awr. Cefais gyfle i ddysgu'r manylion am ei gyfraniad i fywyd Llydaw. Ystyriaf hi'n fraint i godi llef drosto. Cyn dod i Gymru, bu'r Dr. Yann Fouéré mewn gwersyll caethiwo am flwyddyn. Y rheswm am hynny oedd ei waith dros ddiwylliant Llydaw a thros y mudiad a bleidiai ryddid taleithiol iddi. Bu'n Llywydd y mudiad i gael Llydaweg i'r ysgolion. Bu'n Ysgrifennydd y Pwyllgor Ymgynghoro] Taleithiol. Nid oedd y Dr. Fouéré, sylwer, yn aelod o Blaid Genedlaethol Llydaw, ac nid oedd yn euog o gydweithredu mewn unrhyw ffordd â'r Almaen. Sut y mae esbonio cythreuldeb yr erlid arno? Gwelir yr esboniad ar dud. 12 o Adroddiad y Ddirprwyaeth Gymreig a fu'n ymweld â Llydaw. I Lywodraeth Ffrainc yr oedd gweithgarwch Llydewig o unrhyw fath yn sail ddigonol dros erledigaeth. Gwrthododd Mr. Chuter Ede nodi i'r Aelodau Seneddol Cymreig beth yw'r rheswm paham y gyrrodd y Dr. Fouéré o Gymru. A yw'r Aelodau Seneddol am ildio i'r dis- tawrwydd llwfr hwn? A beth am Gyngor yr Eisteddfod a'r Ddirprwyaeth a weithred- odd drosto? Onid wyf yn methu, bydd rhai o aelodau'r Cyngor am fynegi barn bendant ar y mater hwn, a hefyd ar fater ehangach, sef y gwaharddiad gwarthus ar yr iaith Lydaweg yn ysgolion Llydaw, a hynny er cryfed safiad y Ddirprwyaeth. J.G.G.